Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cae pen y mwdwl

Glyn Griffiths|13:49, Dydd Gwener, 23 Ebrill 2010

I'r Sadwrn olaf ac mae'r frwydr am bencampwriaeth Uwchgynghrair Cymru yn parhau.

Yn dilyn canlyniadau Llanelli ganol wythnos, mae tîm tre'r Sosban yn parhau a'r gobaith ond petai'r Seintiau yn fuddugol yn Aberystwyth, yna i'r canolbarth yr aiff y goron.

Mae'n wybyddus mai ar gae artiffisial mae'r Seintiau yn chwarae ac mae llawer o'r farn fod hyn yn rhoi mantais iddynt, wedi'r cwbwl tydi'r tîm heb golli adre drwy'r tymor.

O ystyried trafferthion Llanelli a'u cae go iawn y tymor yma, hwyrach y byddai hwythau yn meddwl y byddai'n well fod wedi cael cae artiffisial!

Ond cyn rhuthro i feirniadu onid yw bron pob tîm yn yr Uwchgynghrair yn ymarfer ar gaeau tebyg, a hynny dwywaith yr wythnos! Fe ddylent felly fod wedi dod yn hen gyfarwydd ar sut i chwarae ar gaeau artiffisial.

Mae cae tebyg wedi cael ei osod yn stadiwm CSKA Moscow ond fe wadodd eu rheolwr Leonid Slutsky unrhyw awgrym fod hyn o fantais iddynt, gan gyfeirio at berfformiadau gwael tîm cenedlaethol Rwsia a gynhaliwyd yn y stadiwm.

A ydi caeau o'r math yma yn fantais ac a ddylid eu cael mewn Uwchgynghreirau cenedlaethol - ai dyma'r ffordd tuag at y dyfodol hwyrach?

Gadewch i ni wybod eich barn.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.