Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Yr Elyrch i foddi wrth ymyl y lan

Ian Gwyn Hughes|10:59, Dydd Iau, 29 Ebrill 2010

Thumbnail image for sousa1.jpgPan welais i Abertawe yn ennill oddi cartref yn Vicarage Road yn erbyn Watford rai wythnosau yn ôl, roeddwn yn sicr y bydden nhw'n chwarae yn y gemau ail-gyfle ddiwedd y tymor.

Mae Watford yn lle anodd i fynd iddo, yn chwarae'r bêl uchel a hir, yn pwyso yn gyson ac ar y noson arbennig yma roedd yna wynt a glaw trwm. Ond fe sgoriodd Shefki Kuqi a gyda chymeriad fe lwyddodd Abertawe i gipio'r tri phwynt.

Roedd yna dipyn o amheuaeth wedi'r cweir yn Bloomfield Road yn erbyn Blackpool o 5-1 ond roeddwn ni yn dal i deimlo fod yna ddigon o fwlch rhyngddyn nhw a'r timau eraill. Ers hynny, wrth gwrs, mae pethau wedi mynd o chwith yn gyffredinol i dîm Paul Sousa a phnawn Sul maen nhw'n dibynnu ar Bristol City i wneud ffafr â nhw.

'Dw i'n rhagweld Abertawe yn curo Doncaster yn y Liberty ond 'dw i hefyd yn rhagweld Blackpool yn curo Bristol City yn Bloomfield Road. Mae Ian Holloway wedi gwneud gwaith rhagorol yno. Heb os, mae o'n un o wir gymeriadau'r gêm, y ddawn ganddo i ysbrydoli chwaraewyr a phob tro yn cynnal cyfweliadau ffraeth a diddorol.

Yn ei gyd-destun mae hwn wedi bod yn dymor rhagorol i Abertawe; yn adeiladu ar y seiliau a osodwyd gan Roberto Martinez. Ond wrth gwrs mae disgwyliadau'r cefnogwyr yn codi ac mi fydd yna siom aruthrol bnawn Sul os bydd pethau yn mynd yn erbyn yr Elyrch yn Blackpool.

Mi fydd yna densiwn, does dim dwywaith am hynny. Mi roeddwn yn Wolves y Sadwrn diwethaf yn eu gêm nhw yn erbyn Blackburn. Gôl yr un oedd hi ac yn sgil Burnley yn colli yn erbyn Lerpwl 24 awr yn ddiweddarach mae Wolves yn aros i fyny am dymor arall yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ond doedden nhw ddim yn gwybod hynny am dri o'r gloch bnawn Sadwrn. Yn sgwrsio gyda Mick McCarthy ar ôl y gêm mi gyfaddefodd o fod yna densiwn wedi bod gydol yr wythnos, y chwaraewyr yn gwybod beth oedd yn rhaid ei wneud, y cefnogwyr yn disgwyl iddyn nhw wneud hynny ac roedd hynny'n amlwg ar y cae. Ac fel yna bydd hi i Abertawe yr wythnos yma.

A hefyd yn Sheffield. Beth am y gêm rhwng Wednesday a Crystal Palace? Mi fydd un o'r clybiau mawr yna yn mynd i lawr i Adran Un. Palas druan, yn nwylo'r gweinyddwyr, yn colli deg pwynt.

Ac i unrhyw reolwr sydd yn cwyno am benderfyniad gan ddyfarnwr, wel ydach chi'n cofio yn gynharach yn y tymor yn Ashton Gate pan sgoriodd Palas yn erbyn Bristol City. Ond ni welodd y dyfarnwr na'r llumanwr y bêl yn croesi'r llinell yn glir. Pe bai honno yn cyfrif mi fyddai Palas yn ddiogel.

Cyn cloi - dau bwnc. Rheolwr y flwyddyn? Eddie Howe o Bournemouth yn fy nhyb i. Ac oeddech chi 'n gwybod fod rownd derfynol Cwpan Cymru y penwythnos yma rhwng Bangor a Phort Talbot. Os oeddech chi, siawns eich bod chi yn y lleiafrif.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:57 ar 1 Mai 2010, Hogygog ysgrifennodd:

    Wel , Ian . A fyddi di yno ?

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.