Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Y Messi-a cyfoes?

Glyn Griffiths|12:00, Dydd Iau, 8 Ebrill 2010

Mewn sgwrs gyda'r diweddar Bill Shankly, gofynnais iddo beth oedd y gwahaniaeth rhwng hyfforddi timau pêl-droed yn ei gyfnod o fel chwaraewr (yn y 1930au) a phan oedd yn rheolwr yn y saithdegau pan oedd Lerpwl yn bencampwyr ar bopeth bron.

Ei ateb oedd dweud mai yn ei gyfnod o fel chwaraewr roedd gwisgo sanau gwlan trwm, siorts hir a thrymach a chrysau hirach a thrymach fyth yn golygu fod rhaid ymarfer yn gyson petai ond i allu sicrhau y byddai yn gallu rhedeg o gwmpas am awr a hanner yn y fath ddillad!

Roedd Shankly yn credu fod y newid yng nghyflwr a gwneuthuriad y dillad erbyn ei gyfnod fel rheolwr wedi arwain at well chwaraewyr, pêl-droed cyflymach a safonau uwch o fewn y gêm yn gyffredinol.

lionel_messi.jpg


Rwy'n cyfeirio at hyn gan mai pwnc llosg yr wythnos ydi pa mor dda ydi Lionel Messi, ac ai dyma'r chwaraewr gorau a fu erioed?

Rhag ofn eich bod wedi bod ar blaned arall, dyma'r dyn o Farcelona a chwalodd Arsenal mewn ychydig dros ugain munud nos Fawrth. Ac os ydych wedi bod blaned arall, hwyrach i chi fod wedi dod ar draws Messi tra roeddych yno!

Wrth gymharu chwaraewyr, mae'n anodd gwneud hynny heb ystyried amgylchiadau y cyfnod pan oeddynt yn chwarae.

A oedd John Charles neu Johann Cruyff yn well gan ystyried y taclo ffyrnig a oedd yn cael ei ganiatau yr adeg honno, neu a oedd George Best yn ddi-guro wrth ddawnsio dros ffyrnigrwydd y taclo ac osgoi y troseddau a fyddai wedi malu ei gorff yn ddarnau?

A oedd llwyddiant Pele yn fwy nag un Messi, neu a fyddai Maradona wedi bod yn well byth petai o wedi derbyn y math o gefnogaeth meddygol, dietegol a seicolegol ac â geir heddiw?

Onid mwy priodol fyddai disgrifio chwaraewr fel y gorau o'i genhedlaeth, gan ei osod yng nghyd-destun ei gyfnod, na chymharu rhywun i chwaraewyr o gyfnodau pan oedd cyd-destun y chwarae yn wahanol?

Clywais ddadl ymysg cyn chwaraewyr Everton yn ddiweddar yn cymharu galluoedd y golwyr Gordon West a Neville Southall.

Barn Gordon West oedd mai o oedd y gorau mewn du a gwyn, ac mai Neville Southall oedd y gorau mewn lliw!

Mae un peth yn sicr, mae Lionel Messi wedi creu campwaith pêl-droedaidd lliwgar sy'n disgleirio fel enfys llachar cyfoes, ac yn gosod y gor-ganmoliaeth a roddir i lawer gormod o chwaraewyr llwyd a chyffredin cyfoes mewn cyd-destun priodol.

Ai Messi ydi'r Messeia cyfoes? Gadewch i ni wybod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.