Dychwelyd i'w wreiddiau
Does 'na ddim llawer o chwaraewyr sydd yn dangos teyrngarwch hiroes i'w clybiau y dyddiau yma, ond mae Aled Rowlands yn chwaraewr gwahanol i'r mwyafrif.
Ymunodd Aled â chlwb Derwyddon Cefn yn 1993 wedi cyfnod gydag Aelwyd y Rhos yng Nghynghrair Ardal Wrecsam. Ond methu â chael gêm gyda Threffynnon oedd y tu ôl i newid clwb.
Y dyddiau yna roedd yn bosibl i chwaraewr arwyddo gyda dau dîm (mewn dau wahanol gynghrair) ac roedd Aled ar lyfrau Treffynnon yn Uwchgynghrair Cymru yn ogystal ag ar lyfrau Aelwyd y Rhos.
Yn anffodus, ni allwn addo lle cyson iddo yn nhîm Treffynnon, ac fe gytunodd Aled a minnau mai symud i roi arweiniad i'r Derwyddon, yng nghynghrair gogledd Cymru fyddai'r gorau.
Colled Treffynnon efallai, ond roedd y Derwyddon ar eu hennill, gydag Aled yn eu harwain i Uwchgynghrair Cymru ac yn dangos fod ganddo'r gallu i gystadlu yn gyson ymysg y gorau.
Mae wedi rhoi gwasanaeth i'r tîm o Gefn Mawr am ddwy flynedd ar bymtheg, ac wedi bod yn un o'r prif resymau dros barhad y clwb yn yr Uwchgynghrair, a hynny yn aml yn erbyn pob disgwyl.
Eleni, mae rhesymau teithio, a hwyrach effeithiau anafiadau, yn golygu na all yr amddiffynnwr dibynadwy yma barhau i chwarae ar y lefel uchaf ac mae wedi dychwelyd i'w wreiddiau, gan ymuno gyda thîm Aelwyd y Rhos unwaith eto.
Diolch i Aled am ddangos beth ydi teyrngarwch ac ymroddiad i'w ardal, ac am hybu'r gêm yn yr ardal yma o ogledd ddwyrain Cymru.
Gresyn nad oes yna fwy o chwaraewyr a all ddangos yr un cymeriad y dyddiau yma.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 