Trosolwg Yr Almaen mewn cyfnod o newidPolisi tramor Hitler

Themâu a materion yn ymwneud â hanes yr Almaen yn y cyfnod 1919-1939.

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Polisi tramor Hitler

Pa ffactorau wnaeth arwain at ddechreuad y rhyfel yn 1939?

Themâu allweddol

  • Amcanion polisi tramor Hitler
  • Ailarfogi a chonsgripsiwn
  • Y Rheindir Mawrth 1936
  • Yr Anschluss 1938
  • Y Sudetenland 1938
  • Y Cytundeb Natsi-Sofiet 1939

Roedd Hitler eisiau creu Almaen gref a threchol. Roedd e am ddinistrio Cytundeb Versailles tra’n uno’r holl siaradwyr Almaeneg a chreu Lebensraum yn y dwyrain. Defnyddiodd gyfuniad o amcanion tymor hir ac oportiwnistiaeth i adolygu’r cytundeb yn raddol trwy gydol y 1930au.

Ailarfogodd yr Almaen, yn groes i Gytundeb Versailles, a meddianu’r Rheindir ac Awstria – dau beth oedd wedi eu gwahardd gan Gytundeb Versailles. Gwnaeth argyfwng Sudeten arwain at fygythiad real iawn o ryfel Ewropeaidd ehangach.

Yn y pen draw arweiniodd hyn at feddianu Tsiecoslofacia, ac yna Gwlad Pwyl yn 1939. Yr ymosodiad ar Wlad Pwyl oedd y digwyddiad a achosodd i Brydain a Ffrainc i fynd i ryfel gyda’r Almaen.