Polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Natsïaid
Sut gwnaeth polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Natsïaid effeithio ar fywyd yn yr Almaen?
Themâu allweddol
- Lleihau diweithdra
- Polisi’r Natsïaid tuag at weithwyr
- Menywod a'r tair K
- Rheoli addysg
- Rôl mudiad Ieuenctid Hitler
- Agweddau tuag at grefydd
- Triniaeth yr Iddewon 1933-1939
O dan reolaeth y Natsïaid, adferwyd yr economi. Roedd y rhan fwyaf o Almaenwyr yn ddiolchgar am swyddi gweddol sicr. Ond roedd gweithwyr wedi colli rhai hawliau. Collwyd y cynnydd roedd menywod wedi ei wneud yn ystod cyfnod y Weimar a chafodd rôl menywod mewn cymdeithas ei hailddiffinio.
Roedd Hitler yn sylweddoli pwysigrwydd cyflyru pobl ifanc yn syniadaeth Natsïaeth ac roedd ysgolion yn cael eu rheoli. Cafodd mudiadau ieuenctid eu creu hefyd i ddylanwadu ar bobl ifanc yn ystod eu hamser hamdden. Ceisiodd y Natsïaid reoli crefydd gan bod Hitler yn ystyried bod yr Eglwys a Christnogaeth yn fygythiad pwerus i bolisïau Natsïaidd.
Roedd Hitler wedi egluro ei syniadau am hil yn Mein Kampf. Roedd e’n dadlau mai Ariaid oedd yr hil ddynol oruchaf. Cafodd Iddewon eu herlid yn yr Almaen Natsïaidd. Credai Hitler bod yr hil Ariaidd o dan fygythiad gan bobl nad oedd yn Ariaid, felly yn ei farn ef, roedd yn rhaid puro yr hil.