Trosolwg Yr Almaen mewn cyfnod o newidArswyd a pherswâd

Themâu a materion yn ymwneud â hanes yr Almaen yn y cyfnod 1919-1939.

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Arswyd a pherswâd

Pa ddulliau wnaeth y Natsïaid eu defnyddio i reoli'r Almaen?

Themâu allweddol

  • Defnydd o'r SS a'r Gestapo
  • Rheolaeth ar y system gyfreithiol
  • Goebbels a phropaganda
  • Defnydd o ralïau
  • Radio a sinema
  • Sensro paurau newydd a'r celfyddydau

Cafodd credoau Natsïaidd eu gorfodi ar boblogaeth yr Almaen ar gost fawr i ryddid personol. Defnyddiodd y Natsïaid gyfuniad o arswyd a bygwth i reoli pobl yr Almaen. Roedd yr Almaen yn wladwriaeth yr heddlu, wedi ei rheoli gan yr SS a’r Gestapo.

Roedd y system gyfreithiol o dan reolaeth y Natsïaid ac roedd yn rhaid i’r llysoedd fabwysiadu delfrydau newydd Sosialaeth Genedlaethol. Roedd trwytho a phropaganda yn cael eu defnyddio i gyflyru pobl i dderbyn a chredu syniadau, credoau a gwerthoedd Natsïaidd.

Cafodd y Weinyddiaeth Oleuo a Phropaganda ei sefydlu dan arweinyddiaeth Joseph Goebbels ac roedd cyfryngau yn cael eu sensro.