Sut gwnaeth y Natsïaid atgyfnerthu eu grym rhwng 1933 a 1934?
Themâu allweddol
Hitler yn Ganghellor
Tân y Reichstag
Etholiad 1933 a’r Ddeddf Alluogi
Undebau llafur a phleidiau gwleidyddol
Noson y Cyllyll Hirion
Hitler yn dod yn Führer
Mewn cyfnod byr rhwng 1933 a 1934 trodd Hitler yr Almaen yn wladwriaeth un blaid ac unbennaeth. Erbyn diwedd Awst 1934 roedd Adolf Hitler wedi creu cyfundrefn dotalitaraidd. Rheolodd y Natsïaid o dan y gyfundrefn hon am 12 mlynedd.
Llwyddodd i ddileu gwrthwynebiad gan bleidiau eraill ac undebau llafur, ac yn y pen draw ar wrthwynebiad o fewn ei blaid ei hun. Diflanodd rhyddid barn a hawliau sifil a chreuwyd gwladwriath yr heddlu.