Trosolwg Yr Almaen mewn cyfnod o newidEffaith y Rhyfel Byd Cyntaf

Themâu a materion yn ymwneud â hanes yr Almaen yn y cyfnod 1919-1939.

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf

Pa heriau oedd yn wynebu Gweriniaeth Weimar rhwng 1919-1923?

Themâu allweddol

  • Effaith Cytundeb Versailles
  • Gwendidau llywodraeth Weimar
  • Ansefydlogrwydd gwleidyddol – y Spartaciaid, Putsch Kapp a Putsch Munich
  • Gorchwyddiant
  • Digwyddiadau yn y Ruhr 1923

Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Almaen wedi ei churo a mewn helynt gwleidyddol ac economaidd. Roedd yr economi wedi ei ddifetha ac roedd y Kaiser wedi ffoi o’r wlad. Roedd nifer o bleidiau gwleidyddol, democrataidd ac eithafol, yn ymladd am rym.

Roedd llywodraeth Weimar, a sefydlwyd ar ôl y Rhyfel, yn cael trafferth rheoli’r wlad ac roedd ei phenderfyniad i dderbyn Cytundeb Versailles yn amhoblogaidd iawn.

Erbyn 1923 roedd yr Almaen mewn trafferthion gwleidyddol ac economaidd difrifol. Doedd y wlad ddim yn gallu talu ei iawndaliadau ac roedd yn wynebu trychineb ariannol. Roedd sawl ymgais i ddymchwel y Weriniaeth.