Propaganda a Rheolaeth
Y Wladwriaeth Heddlu
Erbyn Awst 1934 roedd Hitler yn unben â grym absoliwt. Er mwyn cadw’r grym hwn roedd arno angen cyrff a allai reoli’r boblogaeth i sicrhau teyrngarwch absoliwt i’r Führer. Wedi cwymp yr SAEnwau eraill arnyn nhw yw’r Cyrchfilwyr (Stormtroopers) neu’r Crysau brown. Sefydliad milwrol yn y blaid Natsïaidd a ffurfiwyd yn 1921 dan Hitler. ar Noson y Cyllyll Hirion, roedd tri phrif gorff cydgysylltiedig (yn ogystal â’r heddlu Almaenig rheolaidd) yn ymwneud â rheoli pobl yr Almaen trwy ysbïo, brawychu a charcharu petai angen.
- Schutzstaffel (SS) - Dan arweiniad Heinrich Himmler, yr SS oedd y pwysicaf o’r cyrff hyn ac roedd yn goruchwylio’r lleill. Wedi’i sefydlu’n wreiddiol fel gwasanaeth gwarchodwyr personol Hitler, roedd yr SS yn ffanatig o deyrngar i’r Führer. Yn ddiweddarach fe sefydlodd wersylloedd crynhoi lle anfonid ‘gelynion y wladwriaeth’.
- Gestapo - Dyma heddlu cudd y Natsïaid. Eu gwaith oedd monitro poblogaeth yr Almaen am arwyddion o wrthwynebiad neu wrthsafiad i reolaeth y Natsïaid. Câi gymorth mawr gan bobl gyffredin yr Almaen a fyddai’n cario straeon am eu cyd-ddinasyddion.
- Sicherheitsdienst (SD) - Dyma asiantaeth gasglu gwybodaeth yr SS. Roedd yn gyfrifol am ddiogelwch Hitler ac uwch Natsïaid eraill ac yn cael ei harwain gan brif gynorthwywr Himmler, Reinhard Heydrich.
Awgrym adolygu:
Dyma mnemonig da i dy helpu i gofio rhai o brif nodweddion y pwnc hwn:
- Himmler – Pennaeth yr Heddlu
- Sy’n – Yr SS
- Gwylio’n – Y Gestapo
- Sydyn – Yr SD
Rheolaeth Natsïaidd ar y system gyfreithiol
Ni fu’r Natsïaid fawr o dro yn sgubo i ffwrdd lawer o’r rhyddid yr oedd Almaenwyr wedi’i fwynhau dan gyfansoddiad Weimar. Gan fod y blaid yn rheoli’r system gyfreithiol roedd gwrthwynebu’r drefn yn anodd dros ben:
- Roedd rhaid i farnwyr dyngu llw ffyddlondeb i Hitler a disgwylid iddynt bob amser weithredu er budd y wladwriaeth Natsïaidd.
- Roedd rhaid i bob cyfreithiwr ymuno â’r Gymdeithas Gyfreithwyr Natsïaidd, a olygai y gellid eu rheoli.
- Cafodd rôl cyfreithwyr amddiffyn mewn achosion troseddol ei gwanhau.
- Dilëwyd cosb safonol am droseddau ac felly gallai erlynwyr lleol benderfynu pa gosbau i’w rhoi i rai a gafwyd yn euog.
Llwyddodd y newidiadau hyn i fwy na haneru nifer y troseddau a gyflawnwyd rhwng 1933 ac 1939, tra bod nifer y troseddau a gariai’r gosb eithaf wedi cynyddu o 3 i 46. Ar ddiwedd eu dedfrydau, yn hytrach na rhyddhau troseddwyr cafodd llawer ohonynt eu symud i’r nifer cynyddol o wersylloedd crynhoi oedd yn cael eu sefydlu gan yr SS.
Gwersylloedd crynhoi
Yn 1933, agorwyd y gwersyll cyntaf yn Dachau tu allan i Munich. Cyn hir, cafwyd gwersylloedd eraill gan gynnwys Buchenwald, Mauthausen a Sachsenhausen. Eglurwyd mai llefydd i gadw gelynion y wladwriaeth oedd y gwersylloedd crynhoi. Roedden nhw wedi'u "crynhoi" mewn un lle ar gyfer ail-addysgu gwleidyddol.
Gwisgai'r carcharorion driongl lliw er mwyn dangos eu trosedd:
- gwrthwynebwyr gwleidyddol
- troseddwyr
- sipsiwn
- Iddewon
- ffigurau crefyddol penodol
Roedd bywyd yn y gwersylloedd crynhoi yn hynod o anodd. Gorfodwyd gweithwyr i fyw ac i weithio mewn amodau dychrynllyd.
Pan ddaeth adroddiadau o brofiadau’r carcharorion i'r amlwg, roedd yn dwysáu ofn pobl o gael eu harestio. Roedd yr ofn yn helpu'r Natsïaid i gadw rheolaeth.