Goebbels a’r Weinyddiaeth Bropaganda
Roedd Hitler a’r Blaid Natsïaidd yn bresenoldeb parhaus ym mywyd yr Almaenwyr, gydag:
- arwydd anfad y Swastika yn ymddangos ar wisg pob swyddog llywodraeth a phob adeilad cyhoeddus
- lluniau o Hitler yn cael eu harddangos ym mhobman
- Almaenwyr yn gorfod cyfarch ei gilydd trwy godi braich mewn saliwt
Heil Hitler!

Yr adran o’r llywodraeth oedd yn gyfrifol am hyn i gyd oedd y Weinyddiaeth Oleuo a Phropaganda, dan arweinyddiaeth Dr Joseph Goebbels. Ei nod oedd cyflyru pobl i ufuddhau i’r Natsïaid ac eilunaddoli Hitler. Roedd ei dulliau’n cynnwys y canlynol.
Sensro’r wasg
Roedd pob papur newydd yn cael ei reoli gan y llywodraeth a dim ond storïau ffafriol i’r gyfundrefn Natsïaidd a gâi eu hargraffu.
Rheoli darllediadau radio
Roedd setiau radio, a elwid yn ‘Dderbynnydd y Bobl’, yn cael eu gwerthu'n rhad iawn fel bod y rhan fwyaf o Almaenwyr yn gallu fforddio un. Roedd popeth oedd yn cael ei ddarlledu ar y radio yn cael ei reoli gan weinyddiaeth Goebbels drwy Gorfforaeth Ddarlledu’r Reich.
Gosododd y Natsïaid setiau radio gydag uchelseinyddion mewn llefydd fel caffis, ffatrïoedd, sgwariau trefi a chorneli strydoedd, er mwyn i bawb glywed negeseuon y Natsïaid.
Ralïau torfol
Roedd y sioeau cyhoeddus hyn o gefnogaeth i Natsïaeth yn cynnwys cerddoriaeth, areithiau ac arddangosiadau o gryfder yr Almaen. Cynhelid yr un fwyaf bob blwyddyn ym mis Awst yn Nuremberg.
Defnyddio digwyddiadau chwaraeon

Defnyddiodd y Natsïaid Gemau Olympaidd 1936 yn Berlin fel cyfle i arddangos llwyddiant y gyfundrefn ac i ddangos rhagoriaeth yr hil AriaiddRhywun o dras Ewropeaidd – nid Iddewig – yn aml â gwallt melyn a llygaid glas. Credai’r Natsïaid mai’r Ariaid oedd yr hil ddynol oruchaf.. Cafodd yr arweinwyr Natsïaidd eu gwylltio wrth i’r athletwr du o Unol Daleithiau America, Jesse Owens ddod yn fuddugol.
Roedd uchelseinyddion mewn mannau cyhoeddus yn cyhoeddi propaganda Natsïaidd yn ddi-baid. Roedd llawer o’r wybodaeth a gâi’r Almaenwyr yn ategu neges rhagoriaeth yr hil Ariaidd ac yn demoneiddio’r Iddewon a ‘gelynion’ eraill y gyfundrefn.
Pasiwyd Deddf yn erbyn Clebran Maleisus yn 1934 fel bod dweud jôc wrth-Natsïaidd yn drosedd a fyddai’n arwain at ddirwy neu garchar.