Effaith y Dirwasgiad ar yr Almaen
Ym mis Hydref 1929, achosodd Cwymp Wall StreetCwymp economaidd yn y farchnad gyfranddaliadau yn 1929. ar farchnad stoc yr Unol Daleithiau ddirwasgiad economaidd byd-eang. Yn Ewrop, yr Almaen a ddioddefodd waethaf wrth i’r banciau Americanaidd alw holl fenthyciadau tramor i mewn ar fyr rybudd. Roedd y benthyciadau hyn, a gytunwyd dan Cynllun DawesCytundeb rhyngwladol, a arwyddwyd yn 1924, yn ailstrwythuro taliadau iawndaliadau’r Almaen ac yn darparu benthyciadau gan yr Unol Daleithiau i dalu amdanynt. yn 1924, wedi bod yn sail i adferiad economaidd WeimarEnw gweriniaeth yr Almaen rhwng 1919 a 1933. o drychineb gorchwyddiantPrisiau’n cynyddu’n gyflym ac uchel iawn, ynghyd â gostyngiad yng ngwerth arian.. Roedd y benthyciadau wedi ariannu diwydiant yr Almaen ac wedi helpu talu iawndaliadIawndal ariannol gan unigolyn, grŵp neu wladwriaeth i ddigolledu dioddefwyr.. Heb y benthyciadau hyn, aeth diwydiant yr Almaen i’r wal a chafwyd dirwasgiad.
Canlyniad amlycaf y cwymp hwn oedd cynnydd aruthrol mewn diweithdra. Dros aeaf 1929-30 cododd nifer y di-waith o 1.4 miliwn i dros 2 filiwn. Erbyn i Hitler ddod yn CanghellorYng Ngweriniaeth Weimar, y Canghellor oedd pennaeth y llywodraeth, wedi’i benodi gan yr Arlywydd. yn Ionawr 1933 roedd un o bob tri Almaenwr yn ddi-waith, wrth i’r ffigwr gyrraedd 6.1 miliwn. Roedd cynhyrchiant diwydiannol wedi mwy na haneru hefyd dros yr un cyfnod.
Effaith diweithdra
- Gyda’r cynnydd mewn diweithdra gwelwyd cynnydd sylweddol yng ngwariant y llywodraeth ar yswiriant diweithdra a budd-daliadau eraill.
- Dechreuodd Almaenwyr golli ffydd mewn democratiaeth a throi at bleidiau eithafol ar y Chwith (y comiwnyddion) a’r Dde (y Natsïaid) am atebion cyflym a syml.
Methiant gwleidyddol
Ym mis Mawrth 1930, ymddiswyddodd Canghellor yr Almaen, Hermann Müller, pan fethodd ei lywodraeth â chytuno ar sut i ddelio â’r cynnydd yng ngwariant y llywodraeth yn sgil y cynnydd mewn diweithdra. Penodwyd Heinrich Brüning yn ei le. Roedd ei bolisïau i ddelio â’r argyfwng diweithdra yn aneffeithiol, gan danseilio ffydd Almaenwyr mewn democratiaeth ymhellach.
- Ym mis Gorffennaf 1930, cwtogodd y Canghellor Brüning wariant y llywodraeth, cyflogau a thâl diweithdra. Ychwanegodd hyn at y dirywiad graddol wrth i ddiweithdra barhau i godi, yn ogystal â gwneud y rhai a oedd wedi colli’u swyddi’n dlotach fyth.
- Ond ni allai Brüning gael y ReichstagYr enw ar Senedd yr Almaen. i gytuno iddo weithredu yn y modd yma, felly defnyddiodd yr Arlywydd Hindenburg Erthygl 48Y Canghellor yn gallu rheoli heb y Reichstag mewn cyfnod o argyfwng. cyfansoddiad Weimar, a roddai’r grym i’r Arlywydd basio deddfau trwy archddyfarniadDeddf wedi’i phasio gan un gweinidog mewn senedd, heb gael ei chymeradwyo gan y mwyafrif yn y senedd., er mwyn llywodraethu. Effaith hyn oedd tanseilio democratiaeth a gwanhau grym y Reichstag – gan agor y ffordd, gellid dadlau, i unbennaeth Hitler yn ddiweddarach.
Cynnydd eithafiaeth
Pan fydd pobl yn ddi-waith, yn newynog ac yn anobeithio, fel yr oedd miliynau yn yr Almaen rhwng 1930 ac 1933, byddant yn aml yn troi at bleidiau gwleidyddol eithafol sy’n cynnig atebion syml i’w problemau. Rhwng 1930 ac 1933 cafwyd cynnydd anferth yn y gefnogaeth i eithafwyr adain dde’r Natsïaid ac eithafwyr adain chwith y comiwnyddion.
Erbyn 1932 roedd pleidiau oedd wedi ymdynghedu i ddinistrio Gweriniaeth Weimar yn dal 319 o seddi allan o gyfanswm o 608 yn y Reichstag, gyda llawer o weithwyr yn troi at gomiwnyddiaeth. Ond y gwir enillwyr oedd y Natsïaid.