Diwedd Gweriniaeth WeimarRôl yr SA

Arweiniodd Cwymp Wall Street a’r ffaith bod America wedi tynnu arian yn ôl, at ddirwasgiad economaidd difrifol yn yr Almaen. Erbyn 1932, roedd 6 miliwn o Almaenwyr yn ddi-waith a dechreuodd y system wleidyddol ddadfeilio wrth i nifer o Almaenwyr cyffredin droi at bleidiau eithafol. Sut a pham gwnaeth Gweriniaeth Weimar ddymchwel rhwng 1929 a 1933?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Rôl yr SA

Llun o Hitler ac arweinwyr eraill yr SA mewn rali yn yr Almaen, tua 1934.

Chwaraeodd yr ran ym mhoblogrwydd cynyddol y Natsïaid fel a ganlyn:

  • brawychu gwrthwynebwyr gwleidyddol y Natsïaid – yn enwedig y comiwnyddion – drwy fynd i’w cyfarfodydd ac ymosod arnynt
  • cynnig cyfleon i ddynion ifanc di-waith gael chwarae eu rhan yn y blaid
  • gwarchod Hitler a Natsïaid allweddol eraill pan fyddent yn trefnu cyfarfodydd ac yn gwneud areithiau

Erbyn 1932, roedd gan yr SA 400,000 o aelodau.

Ymosod ar Gytundeb Versailles

Roedd y Natsïaid wedi ymosod yn gyson ar y Cytundeb, gan ei alw’n a oedd wedi’i orfodi ar yr Almaenwyr, nid yn unig gan y buddugol, ond hefyd gan lywodraeth newydd Weimar a oedd wedi’i arwyddo. Addawodd Hitler ddileu cyfyngiadau’r Cytundeb ac adfer lluoedd arfog yr Almaen a’i safle o gryfder a balchder mewn materion rhyngwladol. Addawodd Hitler anwybyddu’r gofyniad i dalu iawndaliadau hefyd.