Diwedd Gweriniaeth WeimarEffeithiau propaganda

Arweiniodd Cwymp Wall Street a’r ffaith bod America wedi tynnu arian yn ôl, at ddirwasgiad economaidd difrifol yn yr Almaen. Erbyn 1932, roedd 6 miliwn o Almaenwyr yn ddi-waith a dechreuodd y system wleidyddol ddadfeilio wrth i nifer o Almaenwyr cyffredin droi at bleidiau eithafol. Sut a pham gwnaeth Gweriniaeth Weimar ddymchwel rhwng 1929 a 1933?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Effeithiau propaganda

Llun o Joseph Goebbels.
Figure caption,
Joseph Goebbels

Rheolid propaganda’r Natsïaid gan Joseph Goebbels ac roedd yn cynnwys tair prif thema.

  • Cwlt y Führer. Câi Hitler ei bortreadu bob amser fel iachawdwr yr Almaen – y dyn a fyddai’n achub y wlad rhag crafangau’r dirwasgiad.
  • Volksgemeinschaft (cymuned y bobl). Dyma’r syniad y byddai’r Natsïaid yn creu un gymuned Almaenig a fyddai’n golygu bod crefydd neu ddosbarth cymdeithasol yn llai perthnasol i bobl.
  • Gwneud yr Iddewon (ac eraill) yn fwch dihangol am drafferthion yr Almaen. Câi Iddewon eu portreadu’n aml fel bodau is-ddynol, neu fel bygythiad i burdeb hiliol a dyfodol economaidd y wlad.

Roedd Hitler yn areithiwr gwych a chanddo bŵer anhygoel i ddwyn perswâd ar bobl. Roedd ymgyrch propaganda Goebbels yn effeithiol iawn a daeth â chefnogaeth enfawr i’r Natsïaid trwy dargedu grwpiau penodol â gwahanol sloganau a pholisïau er mwyn ennill eu cefnogaeth.

Cyflwynid propaganda mewn nifer o ffyrdd – papurau newydd, posteri, radio a ffilmiau newyddion yn y sinemâu. Roedd y negeseuon yn syml, ac yn dweud yr hyn yr oedd Almaenwyr eisiau ei glywed.

Image gallerySkip image gallerySlide1 of 4, Poster Natsïaidd gyda’r slogan ‘Mae gwaith yn golygu bara’., Poster propaganda 1 ‘Mae gwaith yn golygu bara’