Rhesymau dros dwf y gefnogaeth i’r Blaid Natsïaidd
Yn 1928, dim ond 12 sedd oedd gan y Natsïaid yn y ReichstagYr enw ar Senedd yr Almaen.. Erbyn Gorffennaf 1932 roedd ganddynt 230 o seddi a nhw oedd y blaid fwyaf.
Apêl Hitler a’r Natsïaid
Daliodd y Natsïaid i gynnig eu Rhaglen 25 Pwynt a gytunwyd yn nechrau’r 1920au ac felly roedd ganddynt apêl gymdeithasol a daearyddol ehangach na’r comiwnyddUnigolyn neu wlad sy’n dilyn syniadau adain chwith Karl Marx am ailddosbarthu cyfoeth., nad oedd yn apelio mewn gwirionedd at neb ond y gweithwyr diwydiannol yn ninasoedd yr Almaen. Daeth cefnogaeth o blith:
- dynion busnes cyfoethog - gan ofni’r cynnydd mewn cefnogaeth i’r comiwnyddion, dechreusant ariannu Hitler a’r Natsïaid
- y dosbarth canol - wedi’u dychryn gan fethiant amlwg democratiaethMath o lywodraeth lle mae pobl yn eu llywodraethu eu hunain neu’n ethol cynrychiolwyr i lywodraethu ar eu rhan., penderfynasant fod ar y wlad angen llywodraeth gryf a rhoesant eu pleidleisiau i Hitler
- cenedlaetholwyr - roeddent yn beio canlyniadau Cytundeb VersaillesY cytundeb heddwch a lofnodwyd gan y Cynghreiriaid a’r Almaen ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ar 28 Mehefin 1919. a’r iawndaliadIawndal ariannol gan unigolyn, grŵp neu wladwriaeth i ddigolledu dioddefwyr. am achosi’r dirwasgiad ac felly rhoesant eu cefnogaeth i’r Natsïaid
- ardaloedd gwledig - roedd cefnogaeth i’r Natsïaid yn arbennig o gryf ymysg siopwyr dosbarth canol a chrefftwyr, ffermwyr a gweithwyr amaethyddol