Sut a pham gwnaeth Gweriniaeth Weimar ddymchwel rhwng 1929 a 1933
Themâu allweddol
Effaith cymdeithasol a gwleidyddol y Dirwasgiad ar Weriniaeth Weimar
Y rhesymau dros dwf y gefnogaeth i’r Blaid Natsïaidd
Rôl yr SA
Propaganda
Eithafiaeth a chynllwynio gwleidyddol 1929-1932
Roedd yr Almaen yn ddibynnol ar fenthyciadau gan yr Unol Daleithiau. Pan ddigwyddodd Cwymp Wall Street yn Hydref 1929, tynnodd yr Unol Daleithiau ei chefnogaeth i’r Almaen yn ôl a cwympodd yr economi Almaenig i ddirwasgaid dwfn.
Creodd y Dirwasgiad amgylchiadau gwleidyddol ac economaidd a achosodd i filiynau o Almaenwyr i newid eu harferion pleidleisio a chefnogi pleidiau eithafol sef y Natsïaid a’r Cominyddion. Enillodd y Natsïaid gefnogaeth ar ôl cwymp yr economi yn 1929 ac erbyn 1933 nhw oedd y blaid fwyaf yn yr Almaen.
Tyfodd y gefnogaeth oherwydd cyfuniad o bropaganda Natsïaidd a chynnydd yn y parodrwydd i wrando ar addewidion y Natsïaid. Arweiniodd gwendid cyfansoddiad Weimar a chynllwynio gwleidyddol at wneud Hitler yn Ganghellor yn Ionawr 1933.