Trosolwg Yr Almaen mewn cyfnod o newidAdferiad Weimar

Themâu a materion yn ymwneud â hanes yr Almaen yn y cyfnod 1919-1939.

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Adferiad Weimar

Pam roedd blynyddoedd Stresemann yn cael eu hystyried yn Oes Aur?

Themâu allweddol

  • Rhoi terfyn ar y gorchwyddiant
  • Cynlluniau Dawes ac Young
  • Pact Locarno
  • Y berthynas gyda Chynghrair y Cenhedloedd
  • Buddsoddiad yr Unol Daleithiau
  • Datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol

O dan arweiniad Gustav Stresemann, roedd 1923 hyd at 1929 yn gyfnod o dwf cymharol, sefydlogrwydd a mwy o hyder ar gyfer Almaen a’r Almaenwyr.

Roedd benthyciadau gan yr Unol Daleithiau yn help i’r Almaen adfer yr economi ac i leihau argyfwng iawndaliadau yr 1920au cynnar. Gwellodd y berthynas gyda gwledydd eraill. Datblygodd celf a diwylliant Almaenig.