Datblygiadau modern
Ar ôl i Marie Curie ddarganfod ymbelydredd, arweiniodd hynny at y triniaethau canser llwyddiannus cyntaf. Mae technegau sganio modern, profion gwaed a geneteg wedi helpu i ddiagnosio canserau yn gynharach, ac ynghyd â thriniaethau modern, ee cemotherapi a thriniaeth ymbelydrol, maent wedi lleihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i ganser.
Mae datblygiadau eraill wedi gwella’r driniaeth. Mae anaesthetigion modern yn cael eu chwistrellu’n uniongyrchol i’r llif gwaed, sy’n golygu y gellir rheoli dognau yn well.

Mae mwy o arbenigedd yn golygu bod llawfeddygon yn tueddu i ganolbwyntio ar feysydd penodol o feddygaeth, ee llawfeddygaeth gardiaidd. Mae technegau sganio modern yn rhoi gwell syniad o lawer i lawfeddygon o beth yw’r broblem cyn iddyn nhw roi llawdriniaeth.
Heintiau firaol
Er gwaethaf cymaint o ddatblygiadau o ran trin afiechydon a chlefydau, nid yw meddygon yn gallu gwella heintiau firaol megis AIDS ac annwyd hyd heddiw. Mae disgwyliad oes yn codi, ond mae canser a chlefyd y galon yn parhau i fod yn brif achosion marwolaeth, yn arbennig ymysg yr henoed.