Datblygu anaesthetigion
Ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd llawfeddygon, a’u cleifion yn arbennig, yn dal i wynebu problemau mawr oedd wedi bodoli ers canrifoedd - poen, sioc, prinder amser, colli gwaed a haint.
Roedd hi’n anodd perfformio llawdriniaeth lwyddiannus ar glaf oedd yn effro. Roedd cyflymder yn hanfodol a gallai llawfeddyg da drychu coes mewn llai na thri munud. Ond, roedd llawer o bobl yn dal i farw o sioc neu golli gwaed a hyd yn oed mwy o ganlyniad i haint yn dilyn y llawdriniaeth. Mewn rhai ysbytai yn Llundain roedd naw o bob deg yn marw o ganlyniad i haint.
Robert Liston
Mae hwn yn ddisgrifiad o lawdriniaeth nodweddiadol a berfformiwyd gan y llawfeddyg, Robert Liston, yn y 1830au. Mae’n rhoi syniad i ni sut beth oedd llawdriniaethau ar ddechrau’r 19eg ganrif.
He was six foot two, and operated in a bottle-green coat with wellington boots. He sprung across the blood-stained boards upon his swooning, sweating, strapped-down patient like a duelist, calling, 'Time me gentlemen, time me!' to students craning with pocket watches from the iron-railinged galleries. Everyone swore that the first flash of his knife was followed so swiftly by the rasp of saw on bone that sight and sound seemed simultaneous. To free both hands, he would clasp the bloody knife between his teeth.
Liston hefyd oedd yr unig lawfeddyg i berfformio llawdriniaeth â chyfradd marwolaeth o 300 y cant. Yn ystod trychiad cyflym iawn, fe dorrodd fysedd ei gynorthwy-ydd i ffwrdd a rhwygodd got un o’r gwylwyr, a lewygodd mewn sioc. Bu farw’r tri - y claf a’r cynorthwy-ydd o ganlyniad i sepsisGelwir hyn hefyd yn wenwyn gwaed neu septisemia. Mae’n cael ei achosi gan facteria niweidiol yn mynd i mewn i glwyfau. a’r gwyliwr o ganlyniad i sioc.
Efallai bod hyn yn rhoi’r argraff bod Liston yn anghymwys, ond mewn gwirionedd roedd yn uchel ei barch, a’r angen i fod yn gyflym achosodd y marwolaethau. Yn 1835, fe oedd athro llawfeddygaeth cyntaf Coleg Prifysgol Llundain, ac yn 1846 perfformiodd y llawdriniaeth gyntaf gan ddefnyddio ether fel anaesthetig yn Ewrop.
James Simpson
Ar ddechrau’r 19eg ganrif dechreuodd gwyddonwyr arbrofi ag anaesthetigion er mwyn rhoi cleifion i gysgu.
- Y nwy cyntaf a ddefnyddiwyd oedd nwy chwerthin. Roedd yn addas ar gyfer tynnu dannedd, ond ni ellid ei ddefnyddio ar gyfer llawdriniaethau hirach.
- Yn 1846 defnyddiwyd ether am y tro cyntaf yn America, ac yna gan Robert Liston yn Llundain. Roedd yn rhoi cleifion i gysgu, ond roedd yn fflamadwy a gallai niweidio’r ysgyfaint.
- Yn 1847 defnyddiodd James Simpson glorofform yn llwyddiannus am y tro cyntaf.

Fe wnaeth Simpson arbrofi â clorofform arno'i hun a dau ffrind arall oedd yn feddygon. Fe wnaethon nhw arbrofi â gwahanol ddognau ar ei gilydd nes eu bod yn anymwybodol.
Simpson, fel athro mewn bydwreigiaeth, ddefnyddiodd glorofform gyntaf i helpu merched wrth iddyn nhw eni ond mewn dim o dro roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer llawdriniaethau. Daeth yn amlwg yn fuan iawn mai hwn oedd yr anaesthetig mwyaf dibynadwy a’r un oedd yn para hiraf. Roedd yn gallu rhoi pobl i gysgu ar gyfer llawdriniaethau hirach, ac felly roedd yn rhoi mwy o amser i lawfeddygon wrth berfformio llawdriniaethau. Er mawr syndod roedd yna wrthwynebu defnyddio clorofform.
- Roedd yn well gan rai llawfeddygon bod eu cleifion yn effro fel eu bod yn gallu ymladd am eu bywydau.
- Roedd llawer o bobl grefyddol yn credu bod poen (yn arbennig poen genedigaeth) yn cael ei anfon gan Dduw, ac na ddylid ymyrryd ag e.
- Roedd hi’n anodd pennu’r dogn cywir. Bu farw Hannah Greener oedd yn 15 oed wrth dynnu ewin ei throed.
Cyfnod du llawfeddygaeth
Yn eironig, ar y cychwyn bu i ddefnyddio clorofform arwain at 'gyfnod du llawfeddygaeth', oedd yn gyfnod o 20 mlynedd pryd y cododd y gyfradd marwolaethau. Ond, nid bai Simpson na clorofform oedd hynny. Gan fod cleifion yn anymwybodol, gallai llawfeddygon erbyn hynny gymryd eu hamser i berfformio llawdriniaethau a rhoi cynnig ar llawdriniaeth ymyrrolMath o lawdriniaeth sy’n golygu creu agoriad yng nghorff y claf a defnyddio offer meddygol yn y corff., anoddach. Yn anffodus roedd cleifion yn dal i farw o ganlyniad i golli gwaed neu heintiau a ddaliwyd yn y theatr oherwydd bod meddygon:
- ddim yn trafferthu golchi eu dwylo
- yn pesychu ar gleifion
- yn gwisgo ffedogau gwaedlyd fel nod o anrhydedd ar y wardiau
Ond roedd clorofform yn gam mawr ymlaen a bu i lawfeddygaeth wella gydag amser.
- Yn y 1850au, datblygodd Dr John Snow, oedd yn adnabyddus oherwydd ei waith gyda colera, fewnanadlydd er mwyn rheoli dognau.
- Defnyddiodd Brenhines Fictoria clorofform yn ystod genedigaeth ei dau o blant. Bu i hynny olygu bod clorofform yn fwy derbyniol.
- Roedd datblygiadau eraill, ee defnyddio antiseptigion yn ystod llawdriniaethau yn lleihau nifer y marwolaethau.