Marie Curie a datblygu ymbelydredd

Gellir dadlau mai Marie Curie yw’r gwyddonydd benywaidd enwocaf erioed. Enillodd Wobr Nobel yn 1903 a 1911 a hi yw’r unig berson i ennill Gwobr Nobel am ffiseg a chemeg.
Ym mis Gorffennaf 1898, gan weithio â’i gŵr Pierre, darganfu ddwy elfen gemegol newydd - poloniwm a radiwm. Gellid defnyddio’r ddwy elfen ymbelydrol yma i ddinistrio meinwe, a bu i hynny arwain at ffyrdd o drin tiwmorau canseraidd. Ar ôl marwolaeth ei gŵr yn 1906 parhaodd â’i hymchwil.
Pelydr X a llawfeddygaeth
Roedd ymchwil Curie yn allweddol o ran datblygu pelydr X ym maes llawfeddygaeth. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, chwaraeodd rôl allweddol wrth sicrhau bod 200 o unedau pelydr X yn cyrraedd ysbytai maes yn ogystal â 20 o gerbydau pelydr X symudol, a gafodd y llysenw petites Curies (Curies bach) gan y Ffrancwyr.
Roedd yn sylweddoli bod hyn yn hanfodol er mwyn cael diagnosis a thriniaeth gyflym ac effeithlon i filwyr oedd wedi eu hanafu. Ar ôl y rhyfel bu i’r Groes Goch Ryngwladol ei gwneud yn bennaeth ei gwasanaeth radiolegol, a threfnodd gyrsiau hyfforddi ar gyfer ysbytywyr a meddygon mewn technegau pelydr X.
Rydym yn gwybod bod Marie Curie yn cario tiwbiau profi o radiwm ymbelydrol o gwmpas ym mhoced ei chot labordy, heb sylweddoli ei fod yn effeithio ar ei iechyd. Bu farw o lewcemia ar 4 Gorffennaf 1934, o ganlyniad i gysylltiad ag ymbelydredd uchel wrth wneud ei gwaith ymchwil.
Triniaeth ymbelydrol
Erbyn heddiw, triniaeth ymbelydrol yw un o’r prif driniaethau ar gyfer canser. Mae triniaethau ymbelydrol modern yn cael eu targedu’n fwy penodol, sy’n golygu ei fod yn well triniaeth. Yn ogystal â llawdriniaeth i dynnu tiwmorau, a cemotherapi i ladd celloedd canser, mae’r driniaeth ar gyfer canser wedi gwella’n sylweddol. Mae canser yn dal i ladd llawer o bobl, ond mae’r rhan fwyaf o fathau o ganser yn cael eu gwella neu eu rheoli o ganlyniad i’r triniaethau yma.