Meddyginiaethau perlysieuol
Roedd perlysiau yn cael eu defnyddio ar gyfer pob math o afiechydon. Yn aml, roedd y meddyginiaethau yma'n cael eu hysgrifennu mewn llyfrau a elwid yn llysieulyfrau. Roedd y llyfrau'n cynnwys lluniau o blanhigion ac esboniadau ar sut y dylid eu defnyddio a beth oedd y dognau. Roedd perlysiau’n cael eu malu gan ddefnyddio pestl a mortar a’u gwneud yn hylifau i’w hyfed neu’n olew ar gyfer eli.
Roedd pobl yn defnyddio planhigion oedd yn tyfu yn lleol yn eu gerddi:
- mintys ar gyfer problemau stumog
- garlleg ar gyfer clwyfau
- lafant ar gyfer cur pen
Roedd yna blanhigion hefyd yng nghefn gwlad:
- dant y llew ar gyfer annwyd a cherrig bustl
- danadl ar gyfer cymalau poenus ac fel tonic gwaed
Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, roedd planhigion tramor yn cael eu defnyddio hefyd yn fwy rheolaidd.
Dadeni Meddygol
Bu mwy o ddatblygiadau ym maes triniaethau yn y cyfnod modern cynnar. Ar brydiau gelwir y cyfnod rhwng tua 1500 i thua 1650 yn Ddadeni Meddygol.
Roedd dyfeisio argraffu yn golygu y gellid cynhyrchu llyfrau meddygol yn rhatach ac roedd hynny yn helpu i ledaenu syniadau yn gyflymach. Ysgrifennodd William Turner dau lyfr, Names of Herbs yn 1548 a A New Herbal yn 1551.
Yn sgil mordeithiau darganfod, cafodd planhigion meddyginiaethol newydd eu plannu yn Ewrop.
Ond mewn gwirionedd, er y bu ychydig o ddatblygiadau o ran gwybodaeth feddygol, nid oedd ymdrechion i wella afiechydon wedi cynyddu fawr ddim ers yr Oesoedd Canol.