Gwaedu a gelod
Roedd yr ychydig feddygon oedd ar gael yn trin y cyfoethog yn unig. Gwaedu oedd un o’r triniaethau mwyaf cyffredin. Credid bod hynny yn cadw cydbwysedd gwlybwyr y corff, ond mae’n debyg bod hynny’n achosi i gleifion fod yn hyd yn oed gwannach. Weithiau roedd un o wythiennau claf yn cael ei thorri gan adael i’r gwaed lifo i gwpan waed, ond roedd yn well gan nifer o feddygon ddefnyddio gelod.
Credid hefyd bod y lleuad yn effeithio’n fawr ar y gwlybwyr, felly roedd lleoliad y lleuad yn bwysig wrth benderfynu pryd y dylid gwaedu claf. Felly nid yw’n fawr o syndod bod y werin bobl yr un mor debygol â’r cyfoethog o wella o afiechydon.
Meddygon Myddfai
Yng Nghymru, meddygon mwyaf enwog yr Oesoedd Canol oedd meddygon Myddfai. Roedd Rhiwallon Feddyg a’i feibion yn feddygon llys Rhys Gryg, Arglwydd y Deheubarth.
Roedden nhw hefyd yn cyfeirio at y sêr wrth gynghori cleifion. Yn ystod mis Awst, er enghraifft, cynghorwyd cleifion i fwyta digon o gawl ond i osgoi cwrw, os oedden nhw eisiau aros yn iach.

Llawfeddygon
Ystyriwyd bod statws llawfeddygon yn is na statws meddygon. Roedd pobl yn cael eu hyfforddi i fod yn llawfeddygon - neu barbwr-llawfeddygon - drwy fwrw prentisiaeth gyda llawfeddygon eraill.
Nid oedd gosod esgyrn oedd wedi torri yn gymaint o broblem â hynny, ond roedd llawdriniaeth fewnol yn beryglus, felly roedd llawdriniaeth yn ddewis olaf. Y problemau i lawfeddygon (a chleifion) oedd:
- nid oedd yna anaesthetigion effeithiol ar gael er mwyn rhoi cleifion i gysgu
- nid oedd yna antiseptigion hollol effeithiol ar gael er mwyn atal heintiau
- gallai cleifion farw o ganlyniad i sioc neu golli gwaed
Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, mae yna beth tystiolaeth bod llawfeddygaeth yn gwella. Awgrymodd Theodoric o Lucca y dylid defnyddio rhwymau wedi eu socian mewn gwin i lanhau clwyfau oherwydd ei fod yn antiseptig ysgafn. Roedd hefyd yn defnyddio sylweddau megis opiwm, cegid a mandraglys fel anaesthetig gwan i roi’r cleifion i gysgu. Roedd y rhyfeloedd niferus yn ystod y cyfnod yma yn golygu bod y barbwr-llawfeddygon wedi dod yn arbenigwyr o ran delio ag anafiadau rhyfel.
Ond roedd llawdriniaeth yn dal yn beryglus. Nid oedd gan lawfeddygon unrhyw syniad o hyd bod budreddi yn cario afiechydon, ac erbyn heddiw byddai’r rhan fwyaf o lawdriniaethau’r Oesoedd Canol yn arwain at achos o esgeulustod troseddol.