Ymdrechion i drin a gwella afiechydon a chlefydauJoseph Lister a’r defnydd o antiseptigion

Mae ymdrechion i drin a gwella afiechydon a chlefydau wedi newid o ganlyniad i welliannau mewn gwybodaeth feddygol. Mae triniaethau wedi dod yn gynyddol lwyddiannus. Sut mae ymdrechion i drin afiechydon a chlefydau wedi newid dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Joseph Lister a’r defnydd o antiseptigion

Nes i ddamcaniaeth germau gael ei derbyn yn y 1860au, nid oedd llawfeddygon yn cymryd unrhyw gamau er mwyn gwarchod archollion agored rhag haint. Nid oedden nhw’n golchi eu dwylo cyn perfformio llawdriniaeth, ddim yn sterileiddio eu hoffer nac yn glanhau’r bwrdd llawdriniaeth.

Dechreuodd hyn newid yn 1867, pan ddarganfu Joseph Lister bod chwistrelliad carbolig yn effeithiol o ran atal clwyfau rhag mynd yn fadreddog. Datblygodd lawfeddygaeth antiseptig drwy chwistrellu offer meddygol, a rhwymau gyda sylwedd 1 mewn 20 o asid carbolig.

Llawdriniaeth cynnar, oddeutu 1870. Mae’r cynorthwy-ydd ar y dde yn dal lliain wedi'i orchuddio â clorofform dros geg y claf. Mae chwistrell carbolig ar gadair yn creu awyrgylch antiseptig
Image caption,
Llawdriniaeth cynnar, oddeutu 1870. Mae’r cynorthwy-ydd ar y dde yn dal lliain wedi'i orchuddio â clorofform dros geg y claf. Mae chwistrelliad carbolig ar gadair yn creu awyrgylch antiseptig

Fel arfer roedd yna beth gwrthwynebiad.

  • Roedd nifer o lawfeddygon yn honni bod dulliau antiseptig Lister yn arafu pethau, ar adeg pan oedd cyflymder yn dal yn hanfodol oherwydd colli gwaed.
  • Roedd Lister yn gallu bod yn feirniadol iawn o lawfeddygon eraill. Felly, roedden nhw'n amharod i dderbyn ei syniadau.
  • Roedd nifer o lawfeddygon yn derbyn y ffaith y byddai llawer o gleifion yn marw - iddyn nhw roedd hynny yn rhan dderbyniol o lawfeddygaeth.

Er gwaetha’r gwrthwynebu hwn, yn fuan roedd hi’n amlwg bod dulliau Lister yn llwyddiannus. Mewn dim ond tair blynedd, llwyddodd i ostwng y gyfradd marwolaethau ymysg ei gleifion o 46 y cant i 15 y cant. Yn fuan roedd eraill yn copïo ei ddulliau. Yn y 1880au, roedd yn cael eu perfformio. Yn 1896, perfformiodd llawfeddygon llawdriniaeth gardiaidd fawr gyntaf wrth iddyn nhw atgyweirio calon oedd wedi ei niweidio o ganlyniad i drywaniad.

Gostwng y gyfradd marwolaethau

Ar ddiwedd y 19eg ganrif, bu datblygiadau eraill a arweiniodd at ostyngiadau ychwanegol yn y gyfradd marwolaethau.

  • Yn y 1860au, cododd safonau glendid ysbytai a gofal nyrsio yn gyflym iawn ar ôl i Florence Nightingale ddychwelyd i’r DU.
  • Yn y 1890au y dechreuodd . Roedd offer llawfeddygol yn cael eu sterileiddio â stêm, a dechreuodd llawfeddygon ddefnyddio clogynnau wedi eu sterileiddio, menig rwber, a gwisgo mygydau wyneb er mwyn lleihau mwy ar y risg o ddal haint.
  • Ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd pelydrau X yn galluogi i lawfeddygon edrych y tu mewn i’r corff cyn perfformio llawdriniaeth.

Colli gwaed

Cafodd yr un broblem oedd ar ôl, sef colli gwaed, ei datrys yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Yn 1901, ddarganfyddodd Karl Landsteiner o Awstria grwpiau gwaed. Rhoddwyd cynnig ar o’r blaen ond fel arfer roedd hynny yn lladd y claf oherwydd bod grwpiau gwaed gwahanol yn arwain at geulo’r gwaed. Roedd cydweddu grwpiau gwaed yn stopio hynny rhag digwydd. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gatalydd i ddatblygu cronfeydd gwaed a thechnegau trallwyso. Yn 1938, sefydlwyd y Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cenedlaethol ym Mhrydain.