Ymdrechion i drin a gwella afiechydon a chlefydauChristiaan Barnard a thrawsblannu

Mae ymdrechion i drin a gwella afiechydon a chlefydau wedi newid o ganlyniad i welliannau mewn gwybodaeth feddygol. Mae triniaethau wedi dod yn gynyddol lwyddiannus. Sut mae ymdrechion i drin afiechydon a chlefydau wedi newid dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Christiaan Barnard a thrawsblannu

Ar 3 Rhagfyr 1967, daeth Ysbyty Groote Schuur yn Ne Affrica i sylw’r byd pan berfformiodd Yr Athro Christiaan Barnard y trawsblaniad calon cyntaf erioed. Dim ond am 18 diwrnod y bu ei glaf, Louis Washkansky, fyw cyn iddo farw o niwmonia, ond roedd ei galon newydd yn curo’n gryf hyd y diwedd.

Dilynwyd hynny gan drawsblaniadau eraill, ond un o brif broblemau’r llawdriniaethau cynnar yma oedd y risg o wrthodiad o ganlyniad i’r trawsblaniad. Ond cafodd hynny ei ddatrys drwy ddatblygu cyffuriau megis cyclosporine sy’n helpu’r corff i dderbyn yr organ newydd.

Roedd Barnard wedi synnu’r byd wrth berfformio’r trawsblaniad cyntaf, ond nid dyma’r unig enghraifft o drawsblannu yn ystod y 100 mlynedd diwethaf.

Blwyddyn/DegawdDigwyddiad allweddol
1905Y trawsblaniad cornbilen cyntaf
1940auYn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd llawfeddygaeth blastig am y tro cyntaf i ailadeiladu wynebau peilotiaid oedd wedi cael eu llosgi’n ddrwg
1952Y trawsblaniad aren cyntaf
1961Gosodwyd y rheoliadur cyntaf yn y galon (er mwyn cynnal curiad calon rheolaidd)
1962Bu i lawfeddygon yn Ysbyty Cyffredinol Massachusetts ailosod braich bachgen 12 oed
1963Y trawsblaniad iau cyntaf
1967Y trawsblaniad calon cyntaf
1972Datblygwyd y dechneg o osod cluniau newydd
1980auDatblygwyd trawsblaniadau mêr esgyrn
1982Y trawsblaniad calon ac ysgyfaint cyntaf
Blwyddyn/Degawd1905
Digwyddiad allweddolY trawsblaniad cornbilen cyntaf
Blwyddyn/Degawd1940au
Digwyddiad allweddolYn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd llawfeddygaeth blastig am y tro cyntaf i ailadeiladu wynebau peilotiaid oedd wedi cael eu llosgi’n ddrwg
Blwyddyn/Degawd1952
Digwyddiad allweddolY trawsblaniad aren cyntaf
Blwyddyn/Degawd1961
Digwyddiad allweddolGosodwyd y rheoliadur cyntaf yn y galon (er mwyn cynnal curiad calon rheolaidd)
Blwyddyn/Degawd1962
Digwyddiad allweddolBu i lawfeddygon yn Ysbyty Cyffredinol Massachusetts ailosod braich bachgen 12 oed
Blwyddyn/Degawd1963
Digwyddiad allweddolY trawsblaniad iau cyntaf
Blwyddyn/Degawd1967
Digwyddiad allweddolY trawsblaniad calon cyntaf
Blwyddyn/Degawd1972
Digwyddiad allweddolDatblygwyd y dechneg o osod cluniau newydd
Blwyddyn/Degawd1980au
Digwyddiad allweddolDatblygwyd trawsblaniadau mêr esgyrn
Blwyddyn/Degawd1982
Digwyddiad allweddolY trawsblaniad calon ac ysgyfaint cyntaf

Trawsblaniadau heddiw

Yn 2005 bu i feddygon yn Ffrainc berfformio trawsblaniad rhannol o wyneb (yn cynnwys trwyn a cheg) ac erbyn heddiw mae rhai llawfeddygon yn ystyried y posibilrwydd o drawsblannu pen. Erbyn heddiw mae trawsblaniadau o bob math yn gyffredin. Mae hyd at 200 o drawsblaniadau calon yn cael eu perfformio ym Mhrydain bob blwyddyn. Mewn gwirionedd, un o’r prif broblemau heddiw yw prinder rhoddwyr organnau. Yn 2015 daeth Cymru i fod yr unig wlad yn y DU i gyflwyno deddf rhoi organau newydd. Erbyn hyn ystyrir bod oedolion yn caniatáu rhoi eu horganau oni bai eu bod wedi dweud fel arall.

Ffederasiwn Gemau Trawsblaniadau’r Byd

Mae hanes Ffederasiwn Gemau Trawsblaniadau’r Byd ar eu gwefan. Mae’r dyfyniad hwn yn dystiolaeth o lwyddiant llawfeddygaeth trawsblannu ar draws y byd.

Cynhaliwyd y digwyddiad chwaraeon cystadleuol cyntaf i rai sydd wedi derbyn trawsblaniad yn Portsmouth, Lloegr yn 1978 gyda 99 o gystadleuwyr o’r DU, Ffrainc, Yr Almaen, Gwlad Groeg ac UDA. Heddiw rydym yn cynnal Gemau Trawsblaniadau Byd yr Haf bob dwy flynedd a Gemau’r Gaeaf yn y blynyddoedd cyfamserol. Yn 1987 sefydlwyd Ffederasiwn Gemau Trawsblaniadau’r Byd ac erbyn hyn mae bron i 70 o wledydd byd-eang yn aelodau.
Ffederasiwn Gemau Trawsblaniadau’r Byd