Ymdrechion i drin a gwella afiechydon a chlefydauAlexander Fleming a darganfod penisilin

Mae ymdrechion i drin a gwella afiechydon a chlefydau wedi newid o ganlyniad i welliannau mewn gwybodaeth feddygol. Mae triniaethau wedi dod yn gynyddol lwyddiannus. Sut mae ymdrechion i drin afiechydon a chlefydau wedi newid dros y blynyddoedd?

Part ofHanesNewidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw

Alexander Fleming a darganfod penisilin

Roedd darganfod penisilin yn ddarganfyddiad meddygol mawr. Penisilin oedd y gwrthfiotig effeithiol cyntaf ellid ei ddefnyddio i ladd bacteria. Roedd hynny yn golygu bod gwella afiechydon difrifol yn bosibl hyd yn oed oes oedd y claf wedi dal y clefyd.

Roedd penisilin wedi cael ei ddarganfod yn ystod y 19eg ganrif, ond Alexander Fleming oedd y cyntaf i sylweddoli ei bwysigrwydd mawr yn 1928. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf sylwodd nad oedd antiseptigion yn gallu atal haint, yn arbennig mewn clwyfau dwfn, felly penderfynodd geisio canfod rhywbeth allai ladd y bacteria oedd yn achosi heintiau fel gwenwyn gwaed.

Darganfuwyd penisilin bron drwy ddamwain. Pan ddaeth yn ôl o’i wyliau, tynnodd Fleming gaeadau oddi ar hen ddysglau petri a sylwodd bod y bacteria yr oedd wedi ei dyfu yn cael eu lladd gan lwydni - penisilin. Defnyddiodd y gair i ddisgrifio’r penisilin. Ond nid oedd gan Fleming yr arian na’r cyfleusterau i barhau â’i ymchwil.

Ernst Chain a Howard Florey

Ar ddiwedd y 1930au aeth dau o wyddonwyr o Rydychen, Ernst Chain a Howard Florey, ati i ymgymryd â’r her. Yn 1939, ar ddechrau’r rhyfel, rhoddodd y llywodraeth gyllid ychwanegol iddyn nhw. Y broblem oedd cynhyrchu digon o benisilin. Roedd angen miloedd o boteli llaeth dim ond i gynhyrchu digon i drin pedair llygoden - er bod y llygod wedi gwella. Yn 1941 profwyd penisilin ar ddyn, ac er iddo farw pan orffennodd y penisilin, roedd yn amlwg ei fod yn effeithiol.

Erbyn 1943, roedd penisilin yn cael ei fasgynhyrchu, fel y mae’n dal i gael ei gynhyrchu heddiw. Yn 1945, amcangyfrifwyd bod byddin UDA yn rhoi dwy filiwn o ddognau bob mis.

Yn ystod y 1940au a’r 1950au datblygwyd gwrthfiotigau eraill. Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y frwydr yn erbyn heintiau. Ond, mae sefydliadau iechyd o gwmpas y byd yn ceisio lleihau’r defnydd o wrthfiotigau, yn arbennig ar gyfer cyflyrau nad ydyn nhw'n rhai difrifol. Mae gorddefnyddio gwrthfiotigau yn golygu eu bod yn llai effeithiol ac mae hynny wedi arwain at ddyfodiad .