Triniaethau traddodiadol yn y cyfnod canoloesol
Nid oedd y rhan fwyaf o bobl yr Oesoedd Canol fyth yn gweld meddyg. Roedd y werin bobl yn gorfod chwilio am driniaethau mewn amryw o ffyrdd.
- Gallen nhw ymweld â’r wraig hysbys leol oedd yn fedrus o ran defnyddio perlysiau.
- Roedd gan fynachlogydd, ee Ystrad Fflur, Tyndyrn a Chastell Nedd clafdyYn yr Oesoedd Canol, roedd clafdy yn ysbyty oedd yn perthyn i fynachlog. Yn ddiweddarach defnyddiwyd y gair am ysbytai yn gyffredinol. ac roedd gan fynachod wybodaeth am feddyginiaethau perlysieuol.
- Gallai’r offeiriad ddefnyddio grym gweddi, neu gallai awgrymu pererindod i gysegr sanctaidd, ee ymweliad â chysegr Sant Thomas Becket yng Nghaergaint, y dywedid allai wella epilepsi neu’r gwahanglwyf.
- Ar draws Cymru ymgynghorwyd â dynion hysbys am bob math o resymau, ee i wella afiechydon, er mwyn canfod pobl ac eiddo coll ac i gael gwared â melltithion. Fel arfer roedden nhw'n ffugio eu hiachâd drwy roi darn o bapur ac arno rai geiriau wedi eu hysgrifennu mewn Saesneg neu Ladin, a symbolau ocwlt yn aml.
- Byddai’r barbwr-llawfeddygon yn tynnu dannedd, gosod esgyrn ac yn gwneud mân lawdriniaethau, yn ogystal â thorri gwallt.
Roedd y meddyginiaethau yma yn gymysgedd o ofergoeledd, crefydd a meddyginiaethau perlysieuol, ac mae rhai ohonyn nhw'n dal i gael eu defnyddio heddiw.