Cyflwyniadau effeithiol
Er mwyn creu araith neu gyflwyniad effeithiol mae angen cynllunio, myfyrio ac ymarfer.
Mae mynegiant wyneb ac iaith corff llawn mor bwysig â’r geiriau sy’n cael eu dweud er mwyn cyfathrebu’n llwyddiannus.
Mae gan bob araith neu gyflwyniad ddwy brif agwedd:
- cynnwys (beth rwyt ti’n ei ddweud)
- cyflwyniad (sut rwyt ti’n ei ddweud)

Cynnwys
O ran y cynnwys, y rhannau pwysicaf yw’r dechrau a’r diwedd. Bydd brawddeg agoriadol dda yn dal sylw’r gynulleidfa.
Dyma rai ffyrdd o sicrhau dy fod yn dechrau’r cyflwyniad mewn ffordd gadarn a hyderus.
- Heria’r gynulleidfa drwy wyrdroi cred gyffredinol, ee “Dydy estrys ddim yn claddu ei ben yn y tywod er mwyn cuddio oddi wrth ei elynion.” Ond gwna’n siŵr bod y gred neu’r ffaith rwyt ti’n ei dewis yn cysylltu’n glir gyda chynnwys dy gyflwyniad.
- Gofynna gwestiwn rhethregol, sef cwestiwn sydd ddim angen ateb penodol, ee “Beth yw ystyr bywyd?” Serch hynny, bydd cwestiwn rhethregol yn gwneud i’r gynulleidfa feddwl am atebion posibl.
- Defnyddia ddyfyniad enwog neu ymadrodd cofiadwy i fachu sylw’r gynulleidfa.
- Synna’r gynulleidfa gyda ffeithiau neu ystadegau syfrdanol ac ysgytiol, ee “Mae tua 50 miliwn o dunelli o wastraff trydanol yn cael ei luchio’n fyd-eang bob blwyddyn. Mae hynny’n gyfwerth â 4 miliwn o fysys deulawr o hen gyfrifiaduron, setiau teledu a pheiriannau cegin, a allai ymestyn i’r Lleuad mwy na thair gwaith drosodd.”
- Cyfeiria at ddigwyddiad hanesyddol a ddigwyddodd ar ddiwrnod dy gyflwyniad, os oes modd ei gysylltu gyda chyd-destun dy araith, ee “Ar y diwrnod hwn yn...”
- Adrodda stori fer neu chwedl gyda neges sy’n gysylltiedig â phrif thema dy gyflwyniad, ee “Ychydig o flynyddoedd yn ôl, cyn i fy rhieni ddeall pa mor bwysig oedd ailgylchu, dw i’n eu cofio nhw’n dweud wrthyf fi eu bod arfer â...”
- Dechreua dy gyflwyniad gyda'r geiriau “Beth petai...?” i ysgogi'r gynulleidfa i feddwl am thema neu bwnc penodol.
Mae angen brawddeg olaf dda hefyd, hynny yw un fydd yn gwneud i’r gynulleidfa chwerthin efallai, neu rywbeth y bydd pobl yn dal i feddwl amdano ar ôl i’r cyflwyniad ddod i ben.
Rhaid i gynnwys y cyflwyniad fod yn hawdd i’w ddilyn. Un ffordd effeithiol o wneud hyn yw drwy ddefnyddio pwyntiau cyfeirio.
Pwyntiau cyfeirio
Bydd defnyddio pwyntiau cyfeirio o fewn y cyflwyniad yn helpu'r gynulleidfa i ddilyn trywydd y cyflwyniad yn well. Dechreua drwy egluro strwythur y cyflwyniad. Wedyn yn ystod y cyflwyniad bydd angen i ti ddefnyddio geiriau ac ymadroddion i nodi’n glir pan fydd un rhan wedi gorffen a'r rhan nesaf yn dechrau. Er enghraifft, "Wedi egluro fy mod yn hoffi parasiwtio, rwyf nawr am drafod y peryglon posibl".
Cyflwyniad
O ran y cyflwyno, mae ymarfer yn hollbwysig. Mae'n rhaid traddodi’r araith yn bwyllog ac yn hyderus gan ddefnyddio llais sy'n glir ac yn uchel. Mae hi hefyd yn bwysig i beidio â siarad yn rhy gyflym.
Paid â darllen testun mewn cyflwyniad sioe sleidiau neu o gardiau areithio air am air. Yn hytrach, defnyddia'r testun fel proc i'r cof gan ymhelaethu ar y cynnwys ar lafar.
Mae pobl yn hoffi teimlo bod y cyflwynydd yn siarad yn uniongyrchol gyda nhw, felly bydd angen dal llygad aelodau'r gynulleidfa.
Yn gyffredinol, bydd cyflwyniad yn cynnwys:
- agoriad
- prif gorff y cyflwyniad
- casgliad