Effeithiolrwydd personolCreu a rhoi cyflwyniadau

Mae effeithiolrwydd personol yn ymwneud â deall dy hun. Gall archwiliad sgiliau dy helpu i adnabod cryfderau a meysydd i’w gwella. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwaith tîm a sgiliau cyflwyno.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Creu a rhoi cyflwyniadau

Roedd Martin Luther King yn un o arweinwyr mudiad hawliau sifil yr Americanwyr Affricanaidd. Yn gyffredinol, mae ei araith enwog - Mae gen i freuddwyd - yn cael ei hystyried fel yr araith fwyaf poblogaidd erioed. Cafodd yr araith hon ei thraddodi ar 28 Awst 1963 pan ddaeth tua 250,000 o wrthdystwyr at ei gilydd i fynnu hawliau pleidleisio a chyfle cyfartal i Americanwyr Affricanaidd.

Roedd Martin Luther King yn gallu cyfathrebu mewn ffordd a oedd yn gwneud i bobl sylweddoli pwysigrwydd cydraddoldeb hiliol. Ar ôl yr araith hon, cafodd newidiadau eu gwneud i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Roedd y newidiadau hyn yn rhoi hawliau pleidleisio i Americanwyr Affricanaidd ac arweiniodd hyn at Ddeddf Hawliau Sifil 1964. Y ddeddf hon wnaeth wahardd gwahaniaethu ar sail hil mewn cyflogaeth ac addysg, ac arwahanu hiliol mewn cyfleusterau cyhoeddus.

Mae gen i freuddwyd y bydd fy mhedwar plentyn yn medru byw, ryw ddydd, fel rhan o genedl lle bydd cymeriad yn bwysicach na lliw croen.
Dr Martin Luther King
Martin Luther King yn rhoi ei araith enwog yn Washington, 1963

Mae llawer o arbenigwyr yn credu bod yr araith hon yn arbennig am y rhesymau a ganlyn:

  • roedd Martin Luther King wedi traddodi ei araith yn hyderus iawn
  • roedd ei lais yn bwerus ac roedd yn defnyddio iaith emosiynol roedd pobl yn gallu cysylltu â hi
  • roedd ei araith yn defnyddio rhythm, ac roedd yn ailadrodd cymalau gan wneud y neges bwerus yn gryfach bob tro
  • roedd ei gynulleidfa’n credu ynddo ac yn cefnogi popeth roedd yn ei ddweud