Effeithiolrwydd personolGwaith tîm effeithiol

Mae effeithiolrwydd personol yn ymwneud â deall dy hun. Gall archwiliad sgiliau dy helpu i adnabod cryfderau a meysydd i’w gwella. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwaith tîm a sgiliau cyflwyno.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Gwaith tîm effeithiol

Gorau chwarae cyd chwarae
Tîm pêl-droed Cymru

Mae llawer o ddamcaniaethau ynglŷn â gwaith effeithiol.

Treuliodd Dr Meredith Belbin flynyddoedd yn astudio pobl sy’n gweithio mewn tîm. Sylwodd fod pobl sy’n gweithio mewn tîm yn cyflawni gwahanol . Bydd gan bob rôl ei chryfderau a’i gwendidau.

Yn ôl Dr Belbin mae naw gwahanol rôl tîm. Mae tîm yn fwy llwyddiannus os yw aelodau'r tîm yn meddu ar bob un o’r naw rôl tîm. Gall tîm golli ei gydbwysedd os yw rolau tîm yr aelodau yr un fath neu'n rhy debyg.

Bydd hyn yn golygu bod gan aelodau’r tîm wendidau tebyg. Bydd ganddynt gryfderau tebyg hefyd, ac o ganlyniad mae hyn yn gallu arwain at yr aelodau'n yn erbyn ei gilydd yn lle .

Mae holiaduron Belbin yn cyfeirio at rolau tîm penodol. Teipia'r geiriau 'rolau tim Belbin' neu ‘Belbin team roles’ mewn peiriant chwilio er mwyn gweld enghreifftiau.

Y naw gwahanol rôl tîm yw:

  • archwilydd adnoddau – rhywun sy’n gallu dod o hyd i syniadau ac atebion a'u cyflwyno i’r tîm
  • gweithiwr tîm – rhywun mae’n bosibl dibynnu arno i gyflawni tasgau
  • cydlynydd – rhywun sy’n gallu canolbwyntio ar amcanion y tîm a dirprwyo gwaith yn briodol
  • plannwr – rhywun sy’n gallu datrys problemau mewn ffordd greadigol ac effeithiol
  • gwerthuswr – rhywun sy’n meddwl yn rhesymegol ac sy’n gallu gwneud penderfyniadau gwrthrychol
  • lluniwr – rhywun sy’n gallu llunio'r tîm a'i annog
  • cyflawnwr – rhywun mae’n bosibl dibynnu arno i wneud yn siŵr fod tasgau wedi cael eu cyflawni hyd eithaf gallu pawb
  • arbenigwr – rhywun sy’n cyflwyno a rhannu gwybodaeth fanwl gyda'r tîm
  • gweithredwr – rhywun sy’n gallu cynnig strategaeth yn nodi’r ffordd fwyaf effeithlon o wneud rhywbeth
Rolau Tîm Belbin mewn tri chategori. Pobl; Cydlynydd, Gweithiwr tîm, Archwiliwr Adnoddau. Meddwl; Monitor Gwerthuswr, Arbenigwr, Plannwr. Gweithredu; Ffurfiwr, Cyflawnwr, Gweithredwr.