Adnoddau cefnogi
Yn aml iawn bydd cyflwynydd yn defnyddio cymhorthion clyweledol i gefnogi'r cyflwyniad, er enghraifft taflen, darn o gerddoriaeth neu ddelwedd. Gallai hefyd ddefnyddio meddalwedd pwrpasol mewn cyflwyniad, fel PowerPoint neu Prezi.
Dylai beth bynnag sy’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r cyflwyniad fod yn addas ar gyfer y cynnwys a dylai’r gynulleidfa allu ei weld neu ei glywed yn glir.
Gan gyfeirio’n benodol at feddalwedd cyflwyniadau, wrth ddefnyddio sleidiau bydd angen defnyddio:
- ffont cyson
- cefndir cyson
- ffont sy’n ddigon mawr i’r rhai sy’n eistedd yng nghefn y gynulleidfa allu ei ddarllen
Wrth baratoi sleidiau:
- paid â defnyddio lluniau gyda chydraniad isel na delweddau wedi eu rhannu’n bicseli Delweddau sy’n cael eu harddangos yn rhy fawr neu’n rhy fach, ac sydd o ganlyniad yn aneglur.
- paid â defnyddio testun mewn prif lythrennau (ac eithrio ar gyfer teitlau)
- paid â defnyddio gormod o destun ar un sleid – mae’r sleid yno i atgoffa’r cyflwynydd ac i ategu’r geiriau sy’n cael eu dweud

Er mwyn creu argraff dda mewn cyflwyniadau, defnyddia luniau clir gyda chydraniad uchel fel y ddelwedd ar y dde
Question
Beth sydd angen ei osgoi wrth gynllunio sleidiau ar gyfer cyflwyniad? Ceisia feddwl am o leiaf bum enghraifft gwahanol sy’n ymwneud â ffont, geiriau, delweddau a lliwiau.
Gallai’r atebion gynnwys y canlynol:
- osgoi gormod o ddelweddau sy’n ychwanegu dim at y cyflwyniad
- osgoi delweddau sydd wedi eu gosod dros y testun, fel nad oes modd darllen y testun
- osgoi camgymeriadau sillafu
- osgoi defnydd amhriodol o briflythrennau
- osgoi lliw ffont sy’n anodd ei ddarllen
- osgoi gormod o destun ar sleidiau
- osgoi gwahanol fathau o ffontiau
- osgoi ffontiau o wahanol faint
- osgoi ffont sy’n anodd ei ddarllen
- osgoi cefndir gorgymhleth gyda llawer o ddelweddau sy’n gwneud y testun yn anodd i’w ddarllen