Effeithiolrwydd personolCynnal cyfarfodydd effeithiol

Mae effeithiolrwydd personol yn ymwneud â deall dy hun. Gall archwiliad sgiliau dy helpu i adnabod cryfderau a meysydd i’w gwella. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwaith tîm a sgiliau cyflwyno.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Cynnal cyfarfodydd effeithiol

Mae cyfarfodydd yn gallu bod yn ffordd effeithiol iawn o drafod rhywbeth wyneb yn wyneb. Mae cyfarfodydd yn cael eu defnyddio er mwyn:

  • trafod syniadau
  • trafod cyfleoedd posibl
  • trafod problem a sut i’w datrys
  • trafod sut i symud ymlaen â rhywbeth
  • gwneud penderfyniadau

Er bod llawer o gyfathrebu’n digwydd dros y ffôn, drwy negeseuon ebost a negeseuon testun, drwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy’r post, mae cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn bwysig gan eu bod yn cynnig cryfderau ychwanegol.

Mewn cyfarfod, mae’n bosibl clywed beth sy’n cael ei ddweud, a gweld iaith corff a chyhyrau wyneb pwy bynnag sy’n siarad, yn ogystal â’r ymateb i beth bynnag sy’n cael ei ddweud gan bobl eraill.

Mae’n bosibl defnyddio cyfleusterau fideogynadledda hefyd. Mae’r dechnoleg hon yn golygu bod rhywun yn gallu bod mewn cyfarfod, er nad yw yn yr un lleoliad â phawb arall, drwy gyswllt fideo byw. Mae’n golygu bod pobl yn dal i allu gweld mynegiant wyneb ac iaith corff ei gilydd.

Grŵp o bobl busnes yn cael cynhadledd fideo mewn ystafell bwrdd
Image caption,
Mae fideogynadledda yn ffordd dda o asesu iaith corff pan nad yw’n bosibl cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb