Effeithiolrwydd personolAdnabod nodweddion

Mae effeithiolrwydd personol yn ymwneud â deall dy hun. Gall archwiliad sgiliau dy helpu i adnabod cryfderau a meysydd i’w gwella. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwaith tîm a sgiliau cyflwyno.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Adnabod nodweddion

Weithiau bydd nodweddion a chymeriad pobl yn amlygu eu hunain yn gryfach nag arfer mewn cyfarfodydd. Mae’n bwysig adnabod mathau penodol o bobl er mwyn dysgu sut i’w rheoli.

Yr un sy’n siarad gormod

Delwedd o gymeriad benywaidd mewn gwisg swyddfa yn siarad yn frwd. Mae'r ddelwedd wedi ei labelu fel 'Yr un sy'n siarad gormod.'

Mae gan y person hwn ddigon i’w ddweud ac ef yw’r prif siaradwr yn y grŵp. Bydd tueddiad gan y person hwn i siarad dros bobl eraill.

Os bydd y broblem yn parhau, siarada gyda’r person y tu allan i’r cyfarfod. Eglura mai’r sefyllfa ddelfrydol os oes deg o bobl mewn cyfarfod yw bod pob person yn cyfrannu deg y cant. Bydd hyn yn sicrhau bod cyfranogiad pawb yn llawer mwy cyfartal.

Yr un sydd ddim yn siarad

Delwedd o gymeriad gwrywaidd mewn gwisg swyddfa yn eistedd, ac yn edrych yn nerfus. Mae'r ddelwedd wedi ei labelu fel 'Yr un sydd ddim yn siarad.'

Nid yw’r person hwn yn siarad mewn cyfarfodydd.

Un ffordd o ddelio gyda'r sefyllfa hon yw i'r cadeirydd ofyn cwestiwn penodol iddo mewn cyfarfod. Ffordd arall o ddelio gyda sefyllfa o'r fath, byddai siarad gyda’r person y tu allan i’r cyfarfod er mwyn egluro pa mor bwysig yw ei gyfraniad a’i farn.

Yr un sy’n crwydro oddi wrth y pwnc

Delwedd o gymeriad benywaidd mewn gwisg swyddfa yn edrych fel pe bai'n meddwl. Mae swigen feddwl wag yn codi o'i phen. Mae'r ddelwedd wedi ei labelu fel 'Yr un sy'n crwydro oddi wrth y pwnc.'

Bydd y person hwn yn tueddu i grwydro oddi wrth y pwnc yn ystod y cyfarfod.

Bydd angen i’r cadeirydd sylweddoli bod hyn yn digwydd a dod â phawb yn ôl at y pwnc.

Yr un ansensitif

Delwedd o gymeriad gwrywaidd mewn gwisg swyddfa â golwg flin ar ei wyneb. Mae swigod siarad yn dod ohono sy'n cynnwys symbolau i ddynodi iaith anweddus. ac wedi ei labelu fel 'Y person ansensitif.'

Mae'r person hwn yn debygol o roi cyngor nad yw’r grŵp ei eisiau. Bydd yn cymryd cyfraniadau pobl eraill yn ysgafn ac yn digio aelodau eraill o’r grŵp.

Mae angen siarad â’r person hwn yn fuan iawn. Mae angen ei atgoffa na fydd yn cael gwahoddiad i fod yn aelod o’r grŵp yn y dyfodol os bydd yn dal i ymddwyn fel hyn.