Archwiliad sgiliau
Mae archwiliad sgiliau yn cael ei ddefnyddio er mwyn:
- asesu arbenigedd rhywun mewn sgiliau amrywiol
- canfod pa sgiliau mae angen eu datblygu
Teipia ‘archwiliad sgiliau’ neu ‘skills audit’ mewn peiriant chwilio i weld enghreifftiau lu o gwestiynau sy’n cael eu defnyddio i asesu arbenigedd mewn sgiliau amrywiol.
Mae archwiliadau sgiliau yn asesu arbenigedd mewn ffyrdd amrywiol. Er enghraifft, mae rhai archwiliadau sgiliau yn defnyddio system goleuadau traffig Dull o roi statws coch, gwyrdd neu oren i nodwedd neu ddatganiad., sef dull o roi statws coch, gwyrdd neu oren i nodwedd neu ddatganiad.
Bydd archwiliadau eraill yn defnyddio system sy’n seiliedig ar rifau, ee
- anghytuno’n llwyr
- anghytuno
- cytuno
- cytuno’n gryf
Y broses archwilio sgiliau
Mae pob archwiliad sgiliau i fod yn broses yn hytrach nag un digwyddiad.
Cam un
Defnyddio archwiliad sgiliau fel man cychwyn ar gyfer cynllunio gweithgaredd datblygu sgiliau yn y dyfodol.
Cam dau
Deall cryfderau a gwendidau presennol er mwyn cynllunio datblygiad mewn meysydd penodol.
Cam tri
Ar ôl cwblhau gweithgareddau i ddatblygu meysydd penodol, bydd angen myfyrioProses o edrych yn ôl ar beth bynnag sydd wedi cael ei wneud, a dysgu gwersi ynglŷn â beth sydd wedi gweithio a beth sydd ddim wedi gweithio. ac ystyried pa mor llwyddiannus oedd y gweithgareddau.
Cam pedwar
Yn dilyn hyn, mae’n bosibl bydd archwiliad sgiliau arall yn cael ei wneud er mwyn mesur cynnydd. Wedyn, bydd y broses yn dechrau eto.