Effeithiolrwydd personolBeth yw sgiliau?

Mae effeithiolrwydd personol yn ymwneud â deall dy hun. Gall archwiliad sgiliau dy helpu i adnabod cryfderau a meysydd i’w gwella. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwaith tîm a sgiliau cyflwyno.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her menter a chyflogadwyedd

Beth yw sgiliau?

Sgiliau yw’r gallu i wneud rhywbeth yn dda.

Mae llawer o wahanol fathau o sgiliau i’w cael. Er enghraifft, mae'n bosibl fod gan rywun arbenigedd mewn chwaraeon, codio, siarad cyhoeddus, cerddoriaeth, siarad mwy nag un iaith, celf neu ddawnsio.

Diagram petalau o sgiliau; Celf neu ddawnsio, Chwaraeon, Codio, Siarad Cyhoeddus, Cerddoriaeth, Siarad mwy nag un iaith.

Mae’n bosibl datblygu a gwella sgiliau. Mae Bagloriaeth Cymru yn canolbwyntio ar saith sgil allweddol, ac mae’r heriau wedi cael eu cynllunio er mwyn darparu cyfleoedd i ymarfer y sgiliau hyn a’u gwella nhw.

Y saith sgil yw:

  • llythrennedd
  • rhifedd
  • cynllunio a threfnu
  • creadigrwydd ac arloesi
  • effeithiolrwydd personol
  • datrys problemau a

Beth yw effeithiolrwydd personol?

Mae effeithiolrwydd yn ymwneud â pha mor dda rwyt ti’n adnabod dy hun. Drwy ddeall ein cryfderau a’n gwendidau, mae modd i ni reoli a gwella ein hymddygiad a’n perfformiad. Mae’n bosibl i rywun wneud hyn yn unigol yn ogystal â mewn grŵp.