Dim gan Dafydd ChiltonThemâu

Dau frawd yw Gwyn ac Owain sy’n dilyn llwybrau bywyd gwahanol – llwybr Cymreig a llwybr Prydeinig – sy’n selio’u tynged. Dwy stori yn un sy’n gofyn i ti feddwl am sut fywyd wnei di ei ddewis yw Dim.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Themâu

Mae dwy lefel o thema yn stori Dim.

Perthyn

Yn thema gyntaf a'r un fwyaf amlwg yw brawdoliaeth/perthyn. Mae hyn i’w weld yn natblygiad bywydau Gwyn ac Owain.

Ym mhennod deg, pan ddaw Owain adref yn sgil marwolaeth Richard Lloyd, rydyn ni’n gweld mor bell mae Owain a Gwyn wedi teithio ar hyd eu gwahanol lwybrau ac oddi wrth ei gilydd; nid oes modd i’r naill na’r llall droi’n ôl oddi wrth ei dynged.

I Owain, mae’n golygu marwolaeth ac i Gwyn mae’n golygu goroesi.

Goroesi

Goroesi yw'r ail thema a'r themau bwysicaf.

Mae Gwyn ac Owain yn dilyn llwybrau gwahanol, llwybrau sy’n cynrychioli dwy ffordd wrthgyferbyniol o fyw. Mae pob penderfyniad yn arwain at ganlyniadau, ac yn y stori mae’r darllenydd yn gweld canlyniadau penderfyniadau’r ddau frawd.

Y ddwy ffordd wrthgyferbyniol yw’r ffordd o fyw Brydeinig y mae Owain yn ei dewis, a’r ffordd o fyw Gymreig y mae Gwyn yn ei dewis. Mae’r gyntaf yn cael ei chynrychioli gan y drefn Brydeinig, ryfelgar, a’r ail gan ffordd o fyw heddychlon Cymry’r mynyddoedd.

Wedi gofyn y cwestiwn - pa fath o fywyd rwyt ti am ei fyw - mae’r stori’n cynnig ateb. Yr ateb hwnnw yw, paid â chael dy hudo gan drefn arferol bywyd. Yn hytrach, neges y nofel yw - tyrd o hyd i dy le ym myd natur, a byw dy fywyd fel mae’r bobl sydd wedi goroesi yn ei fyw. Mae pob ymerodraeth yn cwympo. Mae’r bobl sy’n gwybod sut i gyd-fyw, â byd natur ac â’i gilydd, yn goroesi.

Owain sy’n cynrychioli’r llwybr dinistriol. Rydyn ni’n gweld hyn yn nirywiad ei yrfa ac yn ei farwolaeth.

Gwyn sy’n cynrychioli llwybr gobaith. Rydyn ni’n gweld hyn yn y ffaith ei fod wedi cael teulu, wedi aeddfedu ac wedi byw - goroesi.