Dim gan Dafydd ChiltonCrynodeb o'r stori - rhan un

Dau frawd yw Gwyn ac Owain sy’n dilyn llwybrau bywyd gwahanol – llwybr Cymreig a llwybr Prydeinig – sy’n selio’u tynged. Dwy stori yn un sy’n gofyn i ti feddwl am sut fywyd wnei di ei ddewis yw Dim.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Crynodeb o'r stori - rhan un

Er mwyn dy atgoffa o’r cynnwys, mae’r penodau wedi eu torri i lawr.

Llinell amser o ddarluniau i arddangos manylion hanner cyntaf plot 'Dim'.

Pennod un

  • Owain a Gwyn yn chwarae milwyr wrth hen goeden Nant y Ceirw.
  • Gwyn yn dechrau sylwi ar fyd natur.
  • Owain yn parhau â’r gêm milwyr.
  • Owain yn syrthio o’r goeden ac yn taro ei ben ac mae Gwyn yn ei gario adref.

Pennod dau

  • Yn Ysgol Dre, ysgol Seisnigaidd yng Nghroesoswallt, mae Gwyn wedi ei orfodi i baffio gan rai o’r disgyblion eraill ac mae Owain yn ei helpu.
  • Yn ystod y gwasanaeth mae Gwyn yn cael ei gicio ac mae’n gweiddi mewn poen.
  • Mae’n cael bai ar gam am wneud sŵn.
  • Mae ei ymateb i’r cerydd gwrth-Gymreig mae’n ei gael gan y Prifathro’n arwain at ei wahardd o’r ysgol.

Pennod tri

  • Gwyn yn cael ei arestio am ei ran mewn protest yn erbyn awdurdodau Coleg Prifysgol Bangor.
  • Mae Owain, sydd wedi bod i ffwrdd yng ngwersyll cadéts y fyddin, yn flin gydag ef.
  • Owain yn cyhoeddi ei fod am fod yn filwr SAS.

Pennod pedwar

  • Dau o gyrchoedd, neu missions Owain sydd erbyn hyn yn aelod o’r SAS.
  • Y cyrch cyntaf yn erbyn gwersyll y . Y noson honno mae Owain yn siarad â Joshua, sy’n bushman, ac mae hwnnw’n ei wneud yn flin.
  • Yn yr ail gyrch mae Owain yn rhan o dîm SAS sy’n lladd uned o ddynion IRA oedd yn bwriadu ymosod ar yrrwr lori laeth.

Pennod pump

  • Yn Y Trallwm yn gwerthu ŵyn mae Gwyn yn gwylltio gyda ffermwr arall oherwydd taeogrwydd y dyn hwnnw.
  • Ar ôl dod adref mae Richard Lloyd yn dangos y machlud iddo ac yn ei gyflwyno drwy hynny i’w le ym myd natur.
  • Mae Richard Lloyd yn dweud mai un o’r pethau pwysicaf am y ffordd Gymreig o fyw yw’r ddealltwriaeth o fyd natur.

Pennod chwech

  • Mae Owain wedi helpu llofruddio’r dyn anghywir - Gwyddel oedd i fod yn aelod o’r IRA - ac yn wynebu cael ei daflu allan o’r SAS.
  • Wrth ddisgwyl yn Henffordd am y gorchymyn diarddel mae e’n mynd i redeg ac yn meddwl am yr hyn roedd yn rhaid iddo ei ddioddef i fod yn aelod o’r SAS.
  • Mae e’n derbyn cynnig i aros yn yr SAS.