Dim gan Dafydd ChiltonCymeriadau eraill

Dau frawd yw Gwyn ac Owain sy’n dilyn llwybrau bywyd gwahanol – llwybr Cymreig a llwybr Prydeinig – sy’n selio’u tynged. Dwy stori yn un sy’n gofyn i ti feddwl am sut fywyd wnei di ei ddewis yw Dim.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Cymeriadau eraill

Richard Lloyd

Darlun o'r cymeriad 'Richard Lloyd' o'r nofel 'Dim'.

Mae Richard Lloyd yn ddyn hŷn, aeddfed â phrofiad bywyd a’r byd. Mae’n arwain ac yn gofalu am bobl eraill, ar wahân i Gwyn ac Owain, yn y stori.

Dai Lewis:

Ond fe sylwodd ambell un, ar ôl i Richard Lloyd fynd o’r ysgol, fod tei Dai Lewis yn gam. Ac iddo aros yn gam weddill y dydd.

Enid Lloyd:

... gwelodd Enid Lloyd yn nrws y certws yn ei slipars â’i llygaid yn llawn dagrau. Dringodd i lawr o’r tractor a mynd draw ati. ... Daliodd Richard Lloyd hi’n dyner gan fwmial cysuron a’i phatio’n ysgafn ar ei chefn â’i ddwylo mawr manegog.

Mae Richard Lloyd hefyd yn ddyn annibynnol ei feddwl ac yn was i neb:

Ddeng munud yn ddiweddarach fe ddaeth y ddau heddwas allan o’r sgubor, dringo i’w car a mynd, heb dynnu’r tameidiau gwair o’u lifrai. Safai Richard Lloyd yn nrws y sgubor. Gwyliodd y car yn sgathru o’r buarth ac o’r golwg i lawr y cwm. Safai’n syth, â dwrn ar bob clun.

Ond mae ei brofiad o fywyd wedi ei wneud yn ddyn tawel, meddylgar a gwybodus, er enghraifft ei ddealltwriaeth o berthynas y ddynoliaeth â byd natur ac mae e’n rhoi o’i amser i ddysgu Gwyn amdano, yn uniongyrchol a thrwy esiampl. Hefyd, mae’n gymeriad cryf. Mae e’n caru ei wraig, ac yn dotio ar y bechgyn, ac yn annwyl ac yn ymarferol yn ei berthynas â’r tri ohonyn nhw.

Byd natur

Mae byd natur yn ymddangos dro ar ôl tro yn y stori ac yn gweithredu mewn amryw o ffyrdd:

  • dylanwadu – ar Owain wrth y nant ym Mannau Brycheiniog
  • rhybuddio neu achosi - damwain Owain ar y graig wrth Nant y Ceirw ym mhennod un a methiant cyrch Harri’r Ail ym mhennod saith
  • bendithio – Gwyn yn cyfarfod Rhian yn y gwasanaeth diolchgarwch

Nid yw byd natur yn berson, ond mae ei le yn y stori’n hanfodol. Byd natur sy’n darparu cyd-destun y stori ac mae’n rhaid i’r cymeriadau dynol gymryd sylw ohono neu chawn nhw ddim goroesi.