Crynodeb o'r stori - rhan dau
Pennod saith
- Mae Gwyn yn cofio hanes brwydr Maes Crogen yn 1165 ac yn ddiweddarach yn canfod bod iechyd Richard Lloyd yn dirywio.
Pennod wyth
- Mae Owain yn cael ei recriwtio i gymryd rhan yn yr ymgyrch llosgi tai haf.
- Mae e’n deall, o’r diwedd, y twll mae e ynddo, ac yn penderfynu’n ddistaw bach gwneud iawn am fod mor ffôl â’i fywyd.
Pennod naw
- Noson y gwasanaeth diolchgarwch. Cyn mynd, mae Richard Lloyd yn nodi fel mae’r gwasanaeth yn cadarnhau cyswllt pobl â byd natur.
- Yn y gwasanaeth ei hun mae Gwyn yn gweld Rhian Fedw ac yn syrthio mewn cariad â hi.
- Ar y ffordd adref mae Richard Lloyd yn rhagweld ei farwolaeth ei hun.
Pennod deg
- Mae Richard Lloyd wedi marw ac mae Owain yn dod adref i Flaencwm am y tro cyntaf ers talwm.
- Mae’n amlwg fod Gwyn ac Owain erbyn hyn yn byw mewn dau fyd hollol wahanol.
- Yn ystod eu sgwrs mae Owain yn cyfeirio at ei ‘waith’ yn llosgi tai.
Pennod 11
- Mae Owain yn ne Georgia, ynys yn ne’r Iwerydd ar gyrch oedd yn rhan o ymgyrch Prydain yn y Malvinas/Falkland.
- Mae holl rym byd natur yn cael ei amlygu ac mae awgrym fod y cyrch wedi ei drefnu yn y fath le a thywydd er mwyn cael gwared ar Owain.
Pennod 12
- Mae Gwyn yn mynd i gyfarfod cyhoeddus i drafod sefydlu maes carafannau mewn hen chwarel yn Nyffryn Ceiriog.
- Mae Gwyn yn gwrthwynebu’r datblygiad ac yn ymosod ar werth twristiaeth.
Pennod 13
- Mae Owain yn marw mewn damwain hofrennydd yn rhyfel y Malvinas/Falkland.
Pennod 14
- Deng mlynedd yn ddiweddarach mae Gwyn yn Bern, prifddinas y Swistir, lle mae e’n darganfod rhestr luniodd Owain o swyddogion Gogledd Iwerddon sy’n fradwyr.
- Yno hefyd mae llythyr iddo gan Owain sy’n esbonio pam iddo gael ei ladd.
- Mae Gwyn yn anfon y rhestr swyddogion bradwrus i lysgennad yr Unol Daleithiau.
Pennod 15
- Disgrifiad o’r ddamwain hofrennydd ar y Mull of Kintyre a laddodd 29 o bobl a swyddogion gwasanaethau cudd Gogledd Iwerddon.
- Yr awgrym yw bod hyn wedi ei wneud er mwyn gallu cael heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
- Y bobl ar restr Owain yw nhw.
More guides on this topic
- Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros
- O Ran gan Mererid Hopwood
- Diffodd y Sêr gan Haf Llewelyn
- Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun Jones
- Bachgen yn y Môr gan Morris Gleitzman
- I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn
- Llinyn Trôns gan Bethan Gwanas
- Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames
- Yn y Gwaed gan Geraint V Jones