Perthynas y prif gymeriadau â’i gilydd
Dyn a byd natur
Y berthynas bwysicaf yn y stori yw’r berthynas rhwng dyn a byd natur. Mae’n bosibl gweld byd natur yn y stori fel rhywbeth i liwio’r cefndir, ond o’i weld felly mae gormod ohono. Mae pwrpas i’w bresenoldeb a’i gysylltiad â digwyddiadau dramatig.
Yn y nofel mae yna sawl enghraifft o fyd natur yn ffafrio neu’n gwarchod dyn ar ôl iddo fod yn ystyriol ohono:
- buddugoliaeth y Cymry ym mrwydr Maes Crogen
- gwasanaeth diolchgarwch lle mae Gwyn yn cyfarfod â’i gariad
- y cyfarfod lle mae Gwyn yn gwrthwynebu ymelwa twristiaethol ac yn ennill ei ddadl
- Gwyn yn goroesi
Pan mae dyn yn amharchus neu’n anystyriol o fyd natur mae pethau’n mynd o chwith, er enghraifft:
- Owain yn amharchus o’r brwyn a’r griafolen ac mae e’n syrthio ac yn brifo
- yn Llundain yng nghanol olion huddygl a diofalwch, mae Owain yn cael ei llwgrwobrwyo Dal rhywbeth yn erbyn rhywun er lles dy hun; blackmail yn Saesneg. i fod yn llosgwr tai
- yn rhyfel môr y de, mae Owain yn ffodus i ddianc o dde Georgia yn fyw, ond yno y caiff e ei laddyn hwyrach
Mae perthynas Richard Lloyd â byd natur yn un gyflawn a chlos.
Mae Gwyn yn datblygu perthynas debyg i hon erbyn diwedd y stori.
Dim ond o bell y mae Owain yn gweld byd natur ac erbyn iddo ddeall ei arwyddocâd, mae hi'n rhy hwyr.
Gwyn ac Owain â’i gilydd
Y berthynas fwyaf amlwg yn y stori yw’r berthynas rhwng Gwyn ac Owain. Nid yw hi'n berthynas o gyswllt uniongyrchol yn ystod rhan fwyaf y stori. Mae’r berthynas, am y rhan fwyaf o’r stori, yn y gwrthgyferbyniad rhwng y llwybrau bywyd maen nhw'n dewis eu dilyn.
Sut mae’r ddau yn cynnal y berthynas?
Gwyn
Mae Gwyn yn ceisio cynnal y berthynas drwy fod yn ofalus o’i frawd.
Mae ei weithredoedd dros ei frawd yn fwy dynol o annwyl, ac mae’n enwi ei fab ar ôl Owain.
Owain
Mae Owain yn ei gynnal drwy gydnabod cywirdeb ei frawd (yn ei lythyr tua diwedd y llyfr) - gweithred anrhydeddus i ddyn sydd wedi byw mewn, a gwasanaethu, diwylliant sy’n trin pobl o bell.
More guides on this topic
- Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros
- O Ran gan Mererid Hopwood
- Diffodd y Sêr gan Haf Llewelyn
- Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun Jones
- Bachgen yn y Môr gan Morris Gleitzman
- I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn
- Llinyn Trôns gan Bethan Gwanas
- Y Stafell Ddirgel gan Marion Eames
- Yn y Gwaed gan Geraint V Jones