Dim gan Dafydd ChiltonCymeriadau: Gwyn ac Owain

Dau frawd yw Gwyn ac Owain sy’n dilyn llwybrau bywyd gwahanol – llwybr Cymreig a llwybr Prydeinig – sy’n selio’u tynged. Dwy stori yn un sy’n gofyn i ti feddwl am sut fywyd wnei di ei ddewis yw Dim.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Cymeriadau: Gwyn ac Owain

Yn y penodau cyntaf fe welwn ni ddechrau gwahanu llwybrau bywyd y ddau frawd. Mae Gwyn yn gwrthryfela yn erbyn agwedd gwrth-Gymreig yr ysgol fonedd ac yn cael ei ddiarddel (ac o’r herwydd yn mynd i ysgol fwy Cymreig). Mae Owain yn gyfforddus yn yr ysgol fonedd ac yn parhau yno dan ddylanwad ei diwylliant Prydeinig.

Question

Pa ddyfyniadau sy’n dangos hyn?

Gwyn

Darlun o'r cymeriad 'Gwyn’ o'r nofel 'Dim'.

Gwyn yw’r brawd hynaf. Fel llawer o bobl wedi eu magu yn y mynyddoedd mae iddo natur annibynnol ac ychydig yn wyllt, ac mae’r gwylltineb hwnnw i’w weld yn benodol yn ystod ei ieuenctid (ym mhennod dau yn Ysgol Dre, ac ym mhennod pump ym marchnad Y Trallwm). Ond, yn ôl arfer pobl y mynyddoedd, mae e’n aeddfedu a’i egni’n mynd i gynnal ei gymdeithas (yn fwyaf amlwg ym mhennod 12 yn Neuadd Llan).

Rhan fawr o aeddfedu Gwyn yw dysgu ei le. Nid ei le yn y gymdeithas, ond yn hytrach ei le yn y byd, ac yn benodol felly ei le fel dyn ym myd natur. Mae hyn yn fwyaf amlwg ym mhennod pump gyda’r machlud yn Mlaencwm ac ym mhennod naw ar noson y gwasanaeth diolchgarwch.

Mae e’n fwy mewnblyg na’i frawd, yn fwy myfyriol, ac o’r herwydd mae ei ddealltwriaeth o’r hyn sydd o’i gwmpas yn fwy byw iddo ac yn fwy manwl:

Edrychodd i’r nant, i’w llif disglair byw, a chlywodd ei feddyliau’n rhedeg iddi ac efo hi. Llithrodd ei law yn raddol i ganol bwrlwm y swigod lle disgynnai’r ffrwd i bwll a gadael i ymylon y pelennau gloyw gyffwrdd hyd ei fysedd a’u cosi â gwefr oer eu chwalu. (Pennod un)

A chan nad yw e, oherwydd ei natur fwy mewnblyg, yn ennyn yr un poblogrwydd ag y mae Owain, nid yw e - ar ôl addasu i’w sefyllfa - yn gweld cymaint o’i angen.

Yn y pen draw mae Gwyn yn fwy llwyddiannus nag Owain. Mae yn llwyddo i gael gwraig, plentyn, sicrwydd ac - yn fwyaf pwysig - mae e’n goroesi.

Owain

Darlun o'r cymeriad 'Owain' o'r nofel 'Dim'.

Owain yw’r brawd ieuengaf. Ac, fel llawer brawd a chwaer ieuengaf, mae e’n fwy sicr o’i hun na’i frawd mawr. Mae e’n fachgen allblyg, poblogaidd a chorfforol ddawnus - y math sy’n chwarae yn nhimau’r ysgol a byth yn brin o gwmni merched. O’r herwydd mae’n fwy mentrus ac am fyw bywyd fydd yn rhoi’r cyfle iddo barhau i fyw fel mae e wedi arfer â byw.

Mae e’n meddu ar yr un natur annibynnol ac ychydig yn wyllt ag sydd gan Gwyn, ond mae hyn - am y rhesymau uchod - yn amlygu ei hun mewn ffordd wahanol.

Mae’r stori yn ceisio cyfleu mor hollbresennol oedd yr Ail Ryfel Byd ym mywydau pobl yr 1960au, cyfnod plentyndod Gwyn ac Owain:

Roedd rhyfel - a’r Ail Ryfel Byd yn benodol - yn dal i fod yn fara beunyddiol y wlad (Pennod un)

Aeth sylw Gwyn at y cwpwrdd silffoedd isel a safai rhwng gwelyau’r ddau. Yma roedd llyfrau eu hieuenctid - ... sawl blwyddyn o’r Victor Annual, rhesiad o Purnell’s History of the Second World War a degau o gopïau o lyfrau swllt Commando a’r War Picture Library. Teimlai’n sâl. (Pennod tri)

Mae datblygiad aeddfedrwydd Owain felly’n digwydd yn gynharach ac yn hwyrach na datblygiad Gwyn. Yn gynharach oherwydd ei hyder a’i gyswllt, yn sgil hynny, â mwy o bobl. Yn hwyrach oherwydd bod ei feddwl fel dyn ifanc yn llawn o’i boblogrwydd a’i lwyddiant. Dyma pam nad yw gwirionedd ei sefyllfa, a’r aeddfedrwydd sy’n dod gyda hynny, yn ei daro nes ei fod yn rhy hwyr.