Hafaliadau cydamserol - Canolradd ac UwchDatrys hafaliadau cydamserol yn graffigol
Mae angen defnyddio sgiliau algebraidd wrth ymdrin â hafaliadau cydamserol er mwyn canfod gwerth yr anhysbysion mewn dau hafaliad neu fwy, sy’n wir ar yr un pryd.
Gallwn ddatrys hafaliadau cydamserol yn algebraidd neu’n graffigol. Mae angen gwybodaeth am blotio graffiau llinol a chwadratig er mwyn datrys hafaliadau’n graffigol.
I ganfod datrysiadau o graffiau, chwilia am y pwynt lle mae’r ddau graff yn croesi ei gilydd. Dyma bwynt y datrysiad. Er enghraifft, y datrysiad ar gyfer graffiau \(y = x + 1\) a \(x + y = 3\) yw’r pwynt cyfesurynnol (1, 2).
Y datrysiad i’r hafaliadau hyn yw \(x = 1\) and \(y = 2\).
Datrys hafaliadau llinol yn graffigol
Enghraifft
Datrysa’r hafaliadau cydamserol \(x + y = 5\) a \(y = x + 1\) gan ddefnyddio graffiau.
I ateb y cwestiwn hwn, yn gyntaf rhaid i ti lunio set o echelinau, gan wneud yn siŵr bod yna ddigon o le i blotio’r ddau graff.
Nawr llunia’r graffiau ar gyfer \(x + y = 5\) ac \(y = x + 1\).
I lunio’r graffiau hyn, defnyddia dabl gwerthoedd:
\(y = x + 1\)
\(x\)
-1
0
1
2
3
\(y\)
0
1
2
3
4
\(x\)
-1
0
1
2
3
\(y\)
0
1
2
3
4
\(x + y = 5\)
\(x\)
-1
0
1
2
3
\(y\)
6
5
4
3
2
\(x\)
-1
0
1
2
3
\(y\)
6
5
4
3
2
Plotia’r graffiau hyn ar yr echelinau a labela’r ddau graff.
Y pwynt croestoriad yw (2, 3) sy’n golygu bod \(x = 2\) and \(y = 3\).
Datrys hafaliadau llinol a chwadratig yn graffigol - Uwch
Gallwn ddefnyddio graffiau hefyd i ddatrys hafaliadau cydamserol sy’n cynnwys hafaliadau cwadratig a llinol. Fel y gwelson ni wrth ddatrys yn algebraidd, fel arfer bydd yna ddau bâr o atebion.
Enghraifft
Datrysa’r hafaliadau cydamserol \(y = x^2\) ac \(y = x + 2\).
\(y = x^2\)
\(x\)
-3
-2
-1
0
1
2
3
\(y\)
9
4
1
0
1
4
9
\(x\)
-3
-2
-1
0
1
2
3
\(y\)
9
4
1
0
1
4
9
\(y = x + 2\)
\(x\)
-1
0
1
2
3
\(y\)
1
2
3
4
5
\(x\)
-1
0
1
2
3
\(y\)
1
2
3
4
5
Plotia’r graffiau ar yr echelinau ac edrycha am y pwyntiau croestoriad.
Mae’r ddau bwynt croestoriad yn (2, 4) ac (-1, 1) felly mae \(x = 2\) ac \(y = 4\), a \(x = -1\) ac \(y = 1\).