Meddwl awyr las
Mae'n bwysig ceisio cynhyrchu cynifer o syniadau ag sy’n bosibl mewn sesiwn syniadau. Fel rhan o’r dechneg meddwl awyr las, mae grŵp o bobl yn edrych ar gyfle o’r newydd. Efallai bydd y grŵp yn penderfynu ysgrifennu syniadau pawb ar ddarn o bapur neu siart troi.
Neu efallai bydd pobl yn ysgrifennu cynifer o syniadau ag y gallan nhw feddwl amdanyn nhw ar bapurau bach glynu er mwyn eu harddangos ar wal.
Er enghraifft, mewn sesiwn syniadau ar sut i wneud elw i’r ysgol yn ystod gwyliau'r haf, efallai byddai disgyblion yn cynnal sesiwn meddwl awyr las er mwyn gallu rhestru nifer o syniadau amrywiol.
Enghraifft bywyd go iawn
Yn 1975, cafodd Americanwr o’r enw Gary Dahl syniad unigryw ynglŷn â ffordd o wneud arian. Prynodd gerrig o iard adeiladu a’u rhoi mewn bocsys gyda thyllau anadlu ynddyn nhw. Galwodd y cerrig yn Pet Rocks. Gwerthodd y cerrig am $3.95 yr un, ac ar ôl chwe mis roedd wedi gwerthu 1.5 miliwn ohonynt, gan wneud miliynau o ddoleri o elw.
