Chwe het feddwl
Yn 1985, ysgrifennodd Dr Edward de Bono lyfr o’r enw Six Thinking Hats.
Yn y llyfr, mae’n disgrifio techneg sy’n defnyddio chwe het ddychmygol. Mae gan bob het liw gwahanol, ac mae pob lliw yn cynrychioli ffordd benodol o feddwl.
Dyma’r chwe het:
- het wen – meddwl am y ffeithiau
- het goch – meddwl am deimladau
- het felen – meddwl am gyfleoedd a manteision
- het ddu – meddwl am broblemau a risgiau (y gwrthwyneb i’r het felen)
- het werdd – meddwl am syniadau newydd
- het las – dim ond yn cael ei gwisgo gan yr unigolyn sy’n arwain y drafodaeth
Pan fydd rhywun yn gwisgo un o’r hetiau dychmygol, mae’n rhaid iddo feddwl yn y ffordd benodol honno.
Y person sy’n gwisgo’r het las fydd yn dechrau’r drafodaeth.
- I ddechrau, bydd gofyn i bobl wisgo eu het wen ddychmygol er mwyn datgan y ffeithiau sy’n berthnasol i’r drafodaeth.
- Nesaf, bydd gofyn i bawb wisgo ei het werdd ddychmygol er mwyn meddwl am syniadau. Does gan bobl ddim hawl i gynnig sylwadau negyddol yn y cam hwn. Dim ond pan maen nhw’n gwisgo’r het ddu gallan nhw wneud hynny.
- Pan fydd nifer o syniadau wedi eu cynhyrchu, bydd y person sy’n gwisgo’r het las yn awgrymu symud ymlaen i wisgo’r het felen er mwyn trafod agweddau cadarnhaol pob syniad.
- Yna bydd gofyn i bawb wisgo’r het ddu er mwyn meddwl am anawsterau ac anfanteision sy’n gysylltiedig ag unrhyw syniadau.
- Yr het goch yw’r un olaf i gael ei gwisgo fel arfer. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i bobl ddewis syniad terfynol, ac mae hyn yn aml yn seiliedig ar teimlad greddfol Teimlad ynglŷn â rhywbeth sy’n seiliedig ar reddf..
- Yn olaf, bydd y person sy’n gwisgo’r het las yn cyhoeddi’r casgliadau terfynol.
Enghreifftiau bywyd go iawn
Defnyddiodd cwmni Speedo gysyniad de Bono, sef y chwe het feddwl, wrth gasglu syniadau newydd am ffyrdd o helpu pobl i nofio’n gyflymach. Mae cwmnïau adnabyddus eraill, fel Motorola ac IBM, hefyd wedi dweud bod y dechneg wedi eu helpu i gynhyrchu syniadau arloesol.
