Creadigedd ac arloesiMapiau meddwl

Mae codi ymwybyddiaeth yn ymwneud â meddwl am syniadau creadigol. Gall technegau fel mapiau meddwl, meddwl awyr las a’r dechneg chwe het fod yn ddefnyddiol er mwyn dewis syniad i’w ddatblygu.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Mapiau meddwl

Mae'r dechneg o greu mapiau meddwl yn ffordd arall o feddwl yn greadigol. Darlun o sawl darn o wybodaeth yw map meddwl, ac mae'r dechneg yn cysylltu gwahanol syniadau gyda'i gilydd. Drwy wneud cysylltiadau rhwng y syniadau hyn, mae modd creu syniadau newydd.

Mae angen dilyn cyfres o gamau er mwyn creu map meddwl.

Cam un

Yng nghanol y dudalen, tynna lun neu ysgrifenna beth yw’r brif broblem, mater neu ffocws, er enghraifft sut i godi ymwybyddiaeth o lygredd dŵr.

Cam dau

Tynna ychydig o linellau neu ganghennau trwchus sy’n ymestyn o’r brif mater. Dylai'r llinellau hyn dy helpu i drefnu dy feddyliau. Er enghraifft, gallai dy ganghennau gynnwys rhai o’r dulliau gwahanol o godi ymwybyddiaeth, megis taflenni, cyflwyniadau, ymgyrchoedd a cherddi.

Cam tri

Ym mhen draw pob cangen drwchus, gwna ganghennau teneuach yn nodi beth bynnag sy’n dod i dy feddwl. Er enghraifft, gallai canghennau teneuach oddi ar gair fel ‘cyflwyniadau’ gynnwys syniadau sy’n ymwneud â’r gynulleidfa dan sylw, yn ogystal â'r math o gynnwys sydd ei angen, lleoliad neu amser a delweddau addas. Does dim rhaid i ti gyfyngu’r syniadau i eiriau yn unig. Mae modd cynnwys delweddau i adlewyrchu syniadau hefyd.

Cam pedwar

Ar ôl nodi dy holl syniadau, edrycha ar dy fap meddwl unwaith eto. Oes unrhyw gysylltiadau rhwng y syniadau? A oes modd ychwanegu saethau i gysylltu gwahanol rannau o dy fap meddwl?

Cam pump

Beth sy’n sefyll allan? Pan fyddi di’n gallu ateb y cwestiwn hwn, byddi di'n gallu cynnig syniad ar gyfer pecyn codi ymwybyddiaeth.

Map meddwl yn ymwneud â phroblem Llygredd dŵr. Y prif ganghennau yw Ymgyrchoedd, Cerddi, Taflenni a Chyflwyniadau.