Meddwl yn greadigol
Mae modd cynhyrchu syniadau arloesol drwy feddwl yn greadigol.
Mae meddwl mewn ffordd arloesol yn golygu:
- dyfeisio rhywbeth newydd
- dyfeisio ffordd newydd o wneud rhywbeth
- datblygu ffordd newydd o feddwl am rywbeth
- newid y ffordd mae rhywun arall yn edrych ar rywbeth
Mae llawer o dechnegau sy'n gallu cael eu defnyddio i geisio meddwl am syniadau arloesol, er enghraifft:
- meddwl awyr las
- mapiau meddwl
- chwe het feddwl