Codi ymwybyddiaeth gyda chyflwyniadau
Mae rhoi cyflwyniad yn ffordd syml o gyfathrebu gyda chynulleidfa. Yn gyffredinol, dylai cyflwyniad effeithiol gynnwys y canlynol.
Agoriad cryf
Mae agoriad cryf yn golygu dy fod yn dal sylw'r gynulleidfa ar ddechrau’r cyflwyniad. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn canolbwyntio ar yr hyn rwyt ti'n mynd i'w ddweud.
Dyma rai ffyrdd effeithiol o gychwyn yn gryf:
- dangos delwedd berthnasol sy’n dal sylw
- dweud stori fer sy’n berthnasol i’r cyflwyniad
- dweud rhywbeth amdanat ti dy hun wrth y gynulleidfa
- gofyn cwestiwn, yna ateb y cwestiwn ar ddiwedd y cyflwyniad
- dweud jôc ar ddechrau cyflwyniad i ddal sylw’r gynulleidfa
Mae dyfynnu ystadegau ar ddechrau cyflwyniad yn ffordd ddefnyddiol o ennyn diddordeb pobl hefyd, oherwydd mae'n gallu gwneud iddyn nhw feddwl am rywbeth nad ydyn nhw wedi meddwl amdano o’r blaen, ee
"Oeddech chi’n gwybod bod pobl ym Mhrydain yn treulio mwy o amser ar ddyfeisiau technolegol bob diwrnod nag y maen nhw’n ei dreulio’n cysgu? Mae hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon o wyth awr 41 munud yn tecstio, siarad, teipio, chwarae gemau, gwrando neu wylio, o’i gymharu ag wyth awr 21 munud yn cysgu."
Anghenion y gynulleidfa
Dylet ti feddwl am beth mae'r gynulleidfa ei angen ac eisiau o’r cyflwyniad. Dylai dy gyflwyniad ddiwallu eu hanghenion mewn ffordd sy’n hawdd ei deall. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ofyn iddyn nhw beth maen nhw’n ei ddisgwyl o’r cyflwyniad.
Neges graidd
Dylet ti geisio cyflwyno prif neges graidd. Mae neges graidd yn ffaith allweddol byddet ti'n hoffi i’r gynulleidfa ei dysgu erbyn diwedd y cyflwyniad. Dylai'r neges fod yn fyr. Os nad yw’n fyr fydd y gynulleidfa ddim yn cofio beth oedd dy neges. Mae hyd neges Twitter (140 nod) yn ganllaw defnyddiol wrth gynllunio dy neges graidd.
Dyma enghraifft o'r math o neges greiddiol byddai swyddog gyrfaoedd yn ei rhoi i grŵp o fyfyrwyr.
"Mae profiad gwaith mor bwysig. Mae’n help i benderfynu beth rydych eisiau ei wneud a beth dydych chi ddim eisiau ei wneud yn eich bywyd."
Efallai byddai rheolwraig mewn atyniad ymwelwyr yn rhannu'r neges ganlynol gyda'i staff.
"Diogelwch, diogelwch, diogelwch. Dyna ein prif gyfrifoldeb, ac wedyn gallwn ni fwynhau ein hunain."
Cyswllt llygad
Mae cyswllt llygad gyda’r gynulleidfa yn bwysig gan ei fod yn helpu i ddatblygu perthynas. Bydd y gynulleidfa yn fwy tebygol o gysylltu â ti a gwrando ar yr hyn rwyt ti’n ei ddweud.
Anadlu a mwynhau
Yn olaf, rhag ofn byddi di’n teimlo’n nerfus, canolbwyntia ar sut rwyt ti’n anadlu, a cheisio anadlu’n arafach. Dylet ti hefyd geisio siarad yn arafach ac yn gliriach nag y byddet ti’n gwneud mewn sgwrs arferol, a gwneud yn siŵr dy fod yn siarad yn uchel fel bod y gynulleidfa’n gallu dy glywed yn iawn. Mae’n bosibl cysylltu â’r gynulleidfa drwy wenu. Ar ôl i ti setlo, efallai byddi di’n mwynhau rhoi'r cyflwyniad.
Enghraifft bywyd go iawn
Mhairi Black yw’r Aelod Seneddol dros Paisley a Renfrewshire South. Cafodd ei hethol ym Mai 2015 a hi yw’r person ieuengaf i fod yn Aelod Seneddol er 1832. Roedd ei haraith gyntaf yn gofiadwy, ac mae’n dangos sut i gyfathrebu’n effeithiol â chynulleidfa.
(Cynnwys Saesneg)
Question
Edrycha ar y clip fideo o araith gyntaf Mhairi Black yn Nhŷ’r Cyffredin. Beth mae hi’n ei wneud sy’n helpu i roi cychwyn cryf i’w chyflwyniad?
Mae llawer o atebion posibl, ond efallai dy fod wedi sylwi ar y canlynol:
- mae hi’n cadw cyswllt llygad gyda’i chynulleidfa
- mae hi’n ceisio datblygu perthynas drwy ddweud storïau byr doniol
- mae hi’n dyfynnu ystadegau sy’n dal sylw’r gynulleidfa, er enghraifft mae un o bob pum plentyn yn yr Alban yn mynd i’w wely yn y nos heb gael digon o fwyd