Creadigedd ac arloesiCerddi a chaneuon

Mae codi ymwybyddiaeth yn ymwneud â meddwl am syniadau creadigol. Gall technegau fel mapiau meddwl, meddwl awyr las a’r dechneg chwe het fod yn ddefnyddiol er mwyn dewis syniad i’w ddatblygu.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Cerddi a chaneuon

Mae cerddi a chaneuon yn gallu bod yn ddulliau pwerus iawn o godi ymwybyddiaeth. Maen nhw’n gallu cyfathrebu neges neu stori’n glir iawn. Drwy wrando ar gerdd neu gân lawer o weithiau, bydd pobl yn aml yn cofio’r geiriau, ac hynny am amser maith.

Mae cerddi a chaneuon hefyd yn gallu mynegi gwahanol emosiynau. Mae hyn yn golygu bod pobl sy’n gwrando ar y gerdd neu’r gân nid yn unig yn clywed y geiriau, ond maen nhw hefyd yn teimlo'r emosiwn sy’n gysylltiedig â’r geiriau. Gallai’r teimladau fod yn deimladau o hapusrwydd, tristwch neu hyd yn oed obaith ynglŷn â’r mater dan sylw.

Enghraifft bywyd go iawn - cerddi

Olwyn cadair olwyn ar gefndir du, a’i chysgod i’w weld

Mae Tracey Cullen, un o gyd-sefydlwyr Inspirative Arts, wedi ysgrifennu cerdd i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn erbyn pobl anabl. Mae codi ymwybyddiaeth fel hyn yn gallu helpu i ddatrys y broblem, oherwydd efallai bydd pobl eisiau gwneud rhywbeth positif i frwydro yn erbyn troseddau casineb o ganlyniad i ddarllen y gerdd.

Mae elusen Oxfam wedi gosod her i bobl ifanc 11-25 oed, sef cyfansoddi cerdd am anghydraddoldeb yn y byd, neu am anghydraddoldeb rhwng dynion a merched, er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r broblem. Enw'r her yw'r Even it Up Poetry Challenge.

Rydyn ni'n credu drwy wneud y pethau bychain i helpu i godi ymwybyddiaeth, yna bydd rhain yn dylanwadu ar y pethau mawr.
Gwefan Inspirative Arts

Enghraifft bywyd go iawn - cân

Band roc amgen llwyddiannus iawn o America oedd R.E.M. - roedden nhw'n canu rhwng y 1980au a degawd cyntaf yr 21fed ganrif. Enw un o ganeuon y band oedd Orange Crush.

Roedd y gân hon yn codi ymwybyddiaeth o faterion gwleidyddol yn ymwneud â rhyfel Fietnam, y chwistrelliadau cemegol a oedd yn cael eu defnyddio, a’r problemau iechyd a achoswyd i’r milwyr.

Mae caneuon sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion pwysig yn y byd yn annog pobl i feddwl am y neges sy’n cael ei chyfathrebu. Gall meddwl yn ddwys am fater helpu i newid meddyliau ac ymddygiad pobl.

Michael Stipe yn perfformio mewn cyngerdd gydag R.E.M.