Creadigedd ac arloesiDewis syniad

Mae codi ymwybyddiaeth yn ymwneud â meddwl am syniadau creadigol. Gall technegau fel mapiau meddwl, meddwl awyr las a’r dechneg chwe het fod yn ddefnyddiol er mwyn dewis syniad i’w ddatblygu.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Dewis syniad

Ar ôl cynhyrchu syniadau creadigol, mae nifer o dechnegau sy'n gallu cael eu defnyddio er mwyn penderfynu pa syniad sy’n addas i’w ddatblygu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dadansoddiad SWOT
  • matricsau penderfynu
  • adborth

Dadansoddiad SWOT

Mae SWOT yn acronym sydd wedi ei ffurfio o’r geiriau Saesneg:

  • Strengths
  • Weaknesses
  • Opportunities
  • Threats

Y geiriau Cymraeg i’w cofio wrth wneud yw:

  • cryfderau
  • gwendidau
  • cyfleoedd
  • bygythiadau

Bydd gwneud dadansoddiad SWOT yn dy helpu i ganfod pa syniadau sy’n werth eu datblygu.

  • Mae cryfderau yn nodweddion sy’n rhoi mantais i ti dros rywun arall.
  • Mae gwendidau yn nodweddion sy’n dy roi dan anfantais o gymharu â rhywun arall.
  • Mae cyfleoedd yn nodweddion mae’n bosibl manteisio arnyn nhw.
  • Mae bygythiadau yn nodweddion a allai achosi problemau.

Gellir meddwl am bob syniad creadigol yn nhermau ei gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau.

Weithiau, bydd un syniad yn sefyll allan oherwydd bod ganddo fwy o gryfderau a chyfleoedd na’r syniadau eraill. Ar y llaw arall, gall syniad gael ei wrthod os oes ganddo fwy o wendidau a bygythiadau na’r syniadau eraill.

Matricsau penderfynu

Offeryn arall sy'n helpu i ddewis syniad yw .

Mae’n golygu ysytyried pa ffactorau sy’n bwysig wrth ddewis y syniad gorau, rhoi sgôr pwyntiau iddyn nhw a’u gosod mewn . Fel arfer y syniad sydd â’r sgôr pwyntiau uchaf yw’r syniad gorau i'w ddatblygu.

Enghraifft

Wrth ystyried cynnal ymgyrch i leihau sbwriel yn yr ardal leol, y ffactorau pwysig i’w hystyried yw:

  • cost yr ymgyrch – gallai unrhyw beth sy'n rhy ddrud fod yn anymarferol
  • yr amser sydd ei angen i gwblhau'r ymgyrch
  • lefel yr arbenigedd sydd ei hangen i gynnal yr ymgyrch ac i greu adnoddau

Ar ôl penderfynu ar y ffactorau hyn, bydd hi'n bosibl creu matrics penderfynu.

I greu matrics penderfynu, mae’r syniadau’n cael eu rhoi yn y golofn syniadau. Yna gellir rhoi marc allan o 5 neu 10, er enghraifft, i bob . Yr allwedd ar gyfer y meini prawf yw:

  • Cost – lle mae cost uchel = 1, a chost isel = 5
  • Amser – lle mae llawer o amser = 1, a dim llawer o amser = 5
  • Arbenigedd – lle mae angen lefel uchel = 1, a lefel isel = 5

Yna mae angen adio sgorau pob un o’r meini prawf at ei gilydd. Yn olaf, bydd pob syniad yn cael ei osod mewn trefn restrol.

Matrics penderfynu ar ffurf tabl. Mae gan y tabl 4 rhes sydd wedi eu labelu fel Cyflwyniadau mewn ysgolion cynradd, Dosbarthu taflenni yn yr ardal leol, Hysbyseb radio lleol, a Blog.

Yn yr enghraifft hon, dosbarthu taflenni sydd wedi cael y sgôr uchaf. Er hyn, mae’r cyflwyniadau mewn ysgolion cynradd wedi cael sgôr uchel hefyd. Drwy gynnal dadansoddiad SWOT neu sesiwn chwe het feddwl de Bono, bydd modd dewis y syniad terfynol fydd yn cael ei ddatblygu.

Adborth

Mae’n bosibl defnyddio adborth i ddewis syniadau drwy gasglu ymchwil neu .

Un enghraifft o ymchwil ansoddol fyddai cyfweld rhywun am ei farn ynglŷn â pha mor lwyddiannus fyddai rhoi cyflwyniad mewn ysgol gynradd ar y pwnc o leihau sbwriel yn yr ardal leol. Gellid gofyn i bennaeth ysgol gynradd gymryd rhan mewn cyfweliad o'r fath.

Ar y llaw arall, byddai arolwg ar-lein yn dy helpu i ganfod a yw’r gymuned leol yn gwrando ar y radio, ac os felly, ar ba orsafoedd mae pobl yn gwrando.