Creadigedd ac arloesiBlogiau, gwefannau a gemau

Mae codi ymwybyddiaeth yn ymwneud â meddwl am syniadau creadigol. Gall technegau fel mapiau meddwl, meddwl awyr las a’r dechneg chwe het fod yn ddefnyddiol er mwyn dewis syniad i’w ddatblygu.

Part ofCenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Blogiau, gwefannau a gemau

Blogiau

Gall unrhyw un sefydlu blog. Mae offer cyfryngau cymdeithasol fel Blogger a WordPress yn ddarparwyr blogiau ac yn ffordd hawdd o gysylltu a rhannu gwybodaeth gyda phobl eraill er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o fater penodol.

Pobl sy’n rhyngweithio gyda'i gilydd yw cymuned ar-lein. Gallan nhw fod yn bobl sy’n darllen dy flog, neu’n gwneud sylw am rywbeth rwyt ti wedi ei ysgrifennu. Er mwyn i ti allu cynyddu nifer y bobl sy’n darllen dy flog a'u perswadio i ryngweithio ag ef, mae angen i'r hyn rwyt ti'n ei ysgrifennu fod yn ddiddorol i bobl eraill. Er hyn, mae'n gallu cymryd amser i ddatblygu cymuned ar-lein gan fod rhaid cystadlu â chynifer o flogwyr eraill, er enghraifft mae gan WordPress dros 75 miliwn o ddefnyddwyr.

Gwefannau

Mae’n bosibl defnyddio gwefannau i godi ymwybyddiaeth hefyd. Y gwefannau mwyaf effeithiol o ran codi ymwybyddiaeth yw’r rhai:

  • sydd â neges glir
  • sy’n hawdd eu defnyddio i ddod o hyd i wybodaeth
  • sy'n edrych yn ddeniadol
  • sy'n cael eu diweddaru’n rheolaidd
  • sydd â chynnwys diddorol
  • sy'n cynnwys delweddau o safon
  • sy’n cynnwys delweddau perthnasol i’r ymgyrch sy’n cael ei hyrwyddo

Enghraifft bywyd go iawn un

Mae Go Fund Me yn wefan sy’n gadael i bobl ofyn am roddion i gefnogi achosion penodol. Mae Project Ysgol Eden yn enghraifft o stori lwyddiannus. Ym mis Hydref 2014, gofynnodd Sam Hampson am roddion i gefnogi project adeiladu ysgol yn Uganda. Gadawodd Go Fund Me iddo hyrwyddo ei ymgyrch drwy nodi’n fyr pam roedd yn gofyn am roddion a beth oedd ei darged. Erbyn Mawrth 2015, roedd wedi cyrraedd ei darged ac wedi cael £5,000 o roddion gan bobl o bob cwr o’r byd. Yn y cyfamser, mae wedi lansio ymgyrch arall i godi £10,000 er mwyn prynu rhagor o adnoddau addysgol a thalu am lety i blant sydd heb rieni i ofalu amdanynt.

Enghraifft bywyd go iawn dau

Un o elusennau amgylcheddol y Deyrnas Unedig yw’r WWF (Y Gronfa Natur Fyd-eang). Mae’n creu ymgyrchoedd er mwyn gwarchod yr amgylchedd ym mhob rhan o’r byd. Mae gwefan yr elusen yn dangos sut mae mynd ati i godi ymwybyddiaeth o wahanol faterion. Mae’n ceisio ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddiogelu bywyd gwyllt, afonydd, llynnoedd a moroedd. Mae hefyd yn gweithio gyda’r llywodraeth a eraill er mwyn mynd i’r afael â materion amgylcheddol mor effeithiol ag sy’n bosibl.

Mae gwefan WWF yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r ymgyrchoedd a sut mae pobl yn gallu eu cefnogi nhw. Er enghraifft, mae’r wefan yn rhoi cyfle i bobl gefnogi ymgyrchoedd drwy fabwysiadu anifail neu drwy godi arian. Mae’r arian sy’n cael ei gynhyrchu drwy'r ymgyrchoedd hyn yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu’r anifeiliaid mae WWF yn ymgyrchu drostyn nhw.

Gemau

Mae’n bosibl defnyddio gemau fel ffordd o greu ymwybyddiaeth mewn ffordd hwyliog, yn enwedig os mai plant ifanc yw’r gynulleidfa sy’n cael ei thargedu.

Drwy ddefnyddio creadigedd ac arloesi, mae modd addasu gêm fwrdd draddodiadol i ddatblygu dealltwriaeth plentyn o wahanol gysyniadau. Er enghraifft, byddai modd addasu gemau traddodiadol i helpu pobl i ddysgu rheolau’r ffordd fawr. Gellid gofyn cwestiynau i bobl ynglŷn â rheolau’r ffordd fawr, ac os ydynt yn rhoi ateb cywir, gallan nhw daflu dis a symud ymlaen ar y bwrdd yn ôl y nifer ar y dis.

Mae modd chwarae gêm fel Top Trumps naill ai yn y ffordd draddodiadol neu ar-lein. Gellid ei defnyddio i ddatblygu dealltwriaeth plentyn o fwydydd iach, neu i gyfateb mathau o ymarfer corff â nifer y calorïau sy’n cael eu llosgi.

Cardiau 'Top Trumps'. Y cerdyn cyntaf yw Afal Coch. Y gwerthoedd maethol ym mhob 100 gram yw: Calorïau: 52, Braster: 0 gram, Ffibr: 2 gram, Siwgr: 10 gram, Fitamin C: 7%.