Codi ymwybyddiaeth gyda thaflenni
Mae taflenni yn cyfleu neges mewn ychydig iawn o eiriau. Yn aml, mae'r neges yn cael ei chrynhoi ar ochr neu ddwy yn unig o dudalen fach o bapur. Yn ogystal â chynnwys gwybodaeth, mae taflenni yn aml yn ceisio perswadio’r darllenydd i wneud rhywbeth. Maen nhw’n ddull poblogaidd o godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig.
Techneg gynllunio
Mae'r geiriau allweddol a ganlyn yn werth eu hystyried wrth gynllunio taflenni i godi ymwybyddiaeth.
Bydd ystyried y geiriau hyn wrth gynllunio taflen yn dy helpu i ganolbwyntio ar sut i ddal sylw pobl, er mwyn eu hannog nhw i ddarllen y daflen a gweithredu ar yr hyn maen nhw wedi ei ddarllen.
Ymwybyddiaeth
Mae pobl yn dod i gysylltiad â’r cyfryngau drwy’r adeg. Er mwyn i daflen lwyddo i godi ymwybyddiaeth o rywbeth, mae angen i bobl ei darllen. Er mwyn annog pobl i’w darllen, bydd angen teitl bachog neu lun a fydd yn dal sylw’r darllenydd.
Diddordeb
Mae hwn yn gam anodd. Efallai dy fod wedi llwyddo i ddal sylw’r darllenwyr, ond mae angen i ti geisio cadw eu sylw nawr, a gwneud yn siŵr eu bod yn darllen y daflen ac yn deall y neges rwyt ti’n ceisio ei chyfathrebu. Mae rhannu testun yn ddarnau bach a byr yn gallu bod yn effeithiol. Mae’n bosibl gwneud hyn drwy ddefnyddio blychau testun, penawdau ochr a phwyntiau bwled.
Awydd
Dyma lle rwyt ti’n rhoi gwybod i’r darllenwyr pa mor bwysig fydd eu mewnbwn neu eu cyfraniad nhw er mwyn codi ymwybyddiaeth o fater penodol.
Gweithredu
Yn olaf, mae angen i ti nodi’n glir beth rwyt ti eisiau i’r darllenwyr ei wneud. Hynny yw, mae angen ystyried beth yw pwrpas y daflen. Ai gofyn am gyfraniadau, annog pobl i osgoi prynu cynnyrch penodol, neu eu hannog i gefnogi achos penodol yw'r pwrpas?